Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhy naturiol deyrngar i wirionedd i aros yn yr osgo hon yn hir, neu i redeg i eithafion afresymol, fel y praw ei lyfr Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth. A chaniatau, fel y caniatâi ef ei hun, bod yna elfen o fyfïaeth wedn ac anhyblyg yn ei natur na phlygai'n rhwydd i wirionedd a daioni, mae'n rhaid i ni bwysleisio mai'r hyn oedd yn ganolog yn ei ddynoliaeth oedd ei ddelfryd moesol—ysbrydol. Ac wrth ddelfryd golygwn egwyddor weithgar ac effeithiol yn y gydwybod a'r ewyllys, ac yn llywodraethol ar dueddiadau natur—nid meddylrith yn y dychymig yn unig. Ei gynnwys mewn braslun oedd purdeb (drwy hunanymwadiad) a chariad (yn pasio allan i wasanaeth); mewn geiriau eraill, llymder tuag at hunan, a charedigrwydd tuag at eraill. Ystyr moesoldeb ar ran dyn yw hyn fod y rheswm a'r gydwybod ynddo yn llywodraethu ar y teimladau corfforol, a'r greddfau cymdeithasol anhunangar yn llywodraethu ar yr elfen hunangeisiol ynddo; a'r berthynas hon â hunan ac eraill yn dibynnu, wrth gwrs, ar berthynas ddyfnach â'Duw."

Y delfryd hwn, meddwn, a fu yn llusern i'w draed—ac yn yr ail le yn llewych yn ei bulpud a'i lyfrau—yr holl ffordd o gyfnod Aberystwyth hyd y diwedd yn Lerpwl. Ceisiai fyw i fyny ag ef ei hun, a chredai y gallai wasanaethu eraill oreu drwy geisio eu cael hwythau i wneuthur yr un peth. Nid oes dim a deifl oleuni mwy clir ar ei gywirdeb a'i wroldeb moesol na'i waith yn gosod ardystiad dirwestol ar y bwrdd o flaen diaconiaid Bethesda, ysgrifennu ei enw ei hun yn gyntaf, ac yna gofyn i bob un ar ei ben ei hun ardystio. Diddorol o beth fyddai cael hanes mewnol y cyfarfod hwnnw ! Er mai cyfarfod bychan ydoedd, dïau fod y bydysawd moesol yn teimlo'r dirdynnu —y" tug of war"—a fu ym Methesda ryw awr yn 1888 !

Mewn perthynas ag ef ei hun, nid yn unig fe'i disgyblodd ei hun i wneuthur bwyd, a chwsg, ac amser yn