Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

isymwybodol—yn ymladd yn erbyn anrhaith henaint ac yn meithrin hunandwyll ar y mater, nid drwy eillio'i farf na lliwio'i wallt, ond drwy ddywedyd a cheisio profi nad ydoedd yn gwywo'n feddyliol. Ymroddai i bregethu fel cynt, gartref ac oddicartref, ac yr oedd llawer o'r hen angerdd yn aros, ond nid yr un grym. Nid ydym yn sicr nad ffurf ar ymgais yr hen Adda i'w dwyllo ei hunan oedd y ffit o gystadlu a'i meddiannodd wedi iddo agos i ugain mlynedd cynt roddi'r busnes heibio a'i gondemnio—ymgais i atgynhyrchu'r hen nwyf, a dangos yr un meistrolaeth. Cyfansoddodd bryddest faith ar Hiraethog; a threuliodd un gaeaf i ysgrifennu traethawd ar Bergson,—wedi cael ei holl weithiau, rai ohonynt yn y Ffrangeg—a'u darllen yn fanwl. Cwynai oblegid yr oerfel: yr oedd ei fysedd yn aml yn ddi—waed, am nad oedd digon o waed i'r bysedd a'r ymennydd! Ni wyddai ei gyfeillion yn iawn beth i'w wneuthur, ai tosturio wrtho am ei fod yn treisio natur, ai ynteu ei edmygu am ei ddewrder yn ceisio gorchfygu henaint a methiant. Profir ei fod am gael ei gyfrif yn ieuanc ac yn meddu ar rym ei ddyddiau goreu gan y ffaith na fynnai inni sôn amdano fel "ol-rifyn" (back number). Fe'i gosodai ei hun yn yr hen amser hefyd mewn ffordd—neu ynteu ar ochr—arall: ni sylweddolai fod Cymru heddiw yn athronyddol yn gystal ag yn ddiwinyddolwedi symud ymlaen, a bod yna ysgrifenwyr newydd wedi codi a allai gystadlu ag ef, nid yn ei henaint, ond yn ei amser goreu. Heblaw ei ysgrifau a'i adolygiadau yn y cyfnodolion, yr oedd hefyd yn neilltuol brysur yn darlithio a darllen papurau yma a thraw yn Lerpwl a'r gymdogaeth. Yn ol ei ddyddiadur, ei hoff destun y pryd hwn oedd "Puritaniaeth "—testun a ddengys inni brif bwynt ei ddiddordeb ar hyn o bryd.

Yn 1920, dathlwyd Jiwbili yr achos yn Grove Street ar ben ei chwarter canrif yntau yno, a bu'r amgylchiad yn