Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achlysur o lawer o foddhad iddo, oblegid er y gwyddai am gariad a pharch ei bobl ei hun, a bod ei wasanaeth i ryddid diwinyddol yn cael ei werthfawrogi gan y to ieuanc o bregethwyr oedd ym mhulpudau pob enwad, tynnodd yr achlysur allan ddatganiad gan eraill oedd yn anghydweld â rhai o'i olygiadau o'u gwerthfawrogiad o'i onestrwydd tryloew, ei ffyddlondeb i'r gwirionedd a gredai, a'i ymroddiad i wasanaeth Duw a dyn. Yn ffodus nid oedd ymysg ei gyfeillion neb oedd wedi ei feddiannu gan y syniad Cymreig cymysgryw am gymesuredd, sef o gydnabod gwasanaeth cenedlaethol drwy dysteb genedlaethol, er ei fod mor deilwng ohoni â nemawr neb a'i cafodd. Ni feddyliodd ei bobl ychwaith am gymryd mantais ar yr amgylchiad i roddi broad hint iddo i ymddeol! Ni ellir dywedyd na feddyliodd ef am y peth, oblegid dywedodd wrthym ni: "Er y dylaswn ymneilltuo o'r weinidogaeth o ran oedran, nid wyf yn gwneuthur, gan nad yw fy nghyneddfau'n pallu, na'm pobl am i mi wneuthur, dywedant fy mod yn pregethu cystal ag erioed." Bwriadai ef a'r teulu ymneilltuo rywbryd; yr oeddynt yn hamddenol baratoi ar gyfer amgylchiad a ohirient mor bell ag oedd modd drwy blannu coed afalau a'r cyffelyb yn y Tynewydd. Teimlai ef, a hwythau, ddiddordeb yn y syniad, ac ymhyfrydent yn y lle am ryw fis bob blwyddyn. Ond peth arall oedd symud i fyw yno'n gyfangwbl, a newid y bywyd trefol am lonyddwch y wlad. Ofnai aelodau eraill y teulu symud, yn bennaf o'i blegid ef; ofnent mai anesmwytho a wnâi heb y cefn o ddyletswyddau eglwysig yn yr hwyr a fu am flynyddoedd yn ffurfio'r contrast hwnnw yn ei hanes sy'n anhepgor bywyd hapus. Ac eto, y mae'n anodd gweld, a'i fod yn bwriadu ymddeol o gwbl, pa faint o "neilltuedd" a ddisgwyliai gael, ag ef yn awr yn ŵr agos pedwar ugain oed. Gallesid meddwl nad oedd ' yr hyn oedd yn ol o'i dymor heb ei dreulio," ar y cyfrif