Yn ei wely hefyd yr ysgrifennodd ei bapur ar "Grist a'r Gydwybod" a addawsai i Gyfarfod y Gweinidogion.
Ond yr hyn a'n tarawai fwyaf oedd ei awydd ei ddyhead—am gael mynd eto i'w bulpud i bregethu. Beth oedd hyn ond "the ruling passion strong in (the shadow of) death." Nid am y credai ynddo'i hun fel pregethwr yn gymaint ag yn y gwirionedd a bregethai. Caffai ddifyrrwch uwchben brawddeg yn y llythyr swyddogol a dderbyniasai yn hysbysu bwriad y Brifysgol i roddi iddo'r teitl D.D. (yn rhannol) "ar gyfrif ei enwogrwydd (eminence) fel pregethwr," a chariem ninnau'r difyrrwch ymhellach drwy ddywedyd mai ei ddyletswydd yn awroedd cyfiawnhau disgrifiad y Brifysgol drwy gyhoeddi cyfrol o'i bregethau.
Gyd â golwg ar y teitl ei hun, gwyddom i fwriad y Brifysgol roddi boddhad iddo, ond nis prisiai ef yn uwch na'i werth, ac ni lethid mohono gan ei ogoniant; mwynhâi'n hysmaldod ni mai problem bwysig iddo'n awr oedd trefnu ei gynffon fel ei gyndeidiau yn y coed, ac mai B.A., D.D., oedd fwyaf cyson â gofynion "datblygiad graddol," a'i bod yn bryd i Mrs. Adams ddisgyblu ei pheiriant llafar i sôn am "Y Doctor." Yr oedd yn hollol iach ar y mater, ac mor syml ag erioed.
Yn ol un gohebydd yr oedd wedi gwneuthur y teitl hwn yn "nod" i gyrraedd ati. Dengys y nodyn o eiddo yr Athro Jenkin Jones a ddyfynnir yn nês ymlaen fod y peth yn yr awyr "ers rhai blynyddoedd, ac efallai bod hynny wedi peri iddo edrych i'r cyfeiriad hwn, ond dychymig ffol yw dywedyd iddo ei wneuthur yn nod, fel y prawf amgylchiadau cyfansoddi ei lyfrau. Nid yw'r mater yn un o bwys ond i'r graddau y mae a fynno â'i gymhellion ef wrth ysgrifennu. Yr hyn sydd i'w gadw mewn cof yw bod ei gariad ef at wirionedd yn fwy na'i gariad at unrhyw wobr allanol berthynol iddo. Yn ei lyfrau a'i ysgrifau