Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd ei lygaid fel rheol ar argyfwng a gwasanaeth; weithiau deuai'r awel o lyfr a ddarllenasai. Hyd yn oed wrth gystadlu, fel y gwelsom, ysbrydoliaeth testun, yn fwy na hudoliaeth gwobr, a'i symbylai i gyfansoddi.

"Trueni na fuasai awdurdodau'r Brifysgol yn gwybod pa bryd i anrhydeddu'r teilwng," meddai cyfaill iddo yn ei lythyr cydymdeimlad â'r teulu. Y mae'n ymddangos yn hynod bod eisiau cymaint o amser ar yr "awdurdodau" i wneuthur eu meddwl i fyny, oblegid nid dim a wnaeth Adams wedi 1914 a'u cynorthwyodd, a chawn fod sylw wedi ei alw at ei deilyngdod droeon cyn 1915. Ond nid yw o nemawr pwys, ys dywedai ei nith, "Y mae'n digwydd felly yn ein teulu ni, pan yw'r byd ar ein hanrhydeddu, fe ddywed yr Anfeidrol, Nid yw'n ddigon da i ti, tyrd i fyny yma!"

Ac felly y bu. Ni wyddom sut yr oedd ei fyr ysgafn gystudd yn gweithredu iddo dragwyddol bwys gogoniant, ond gwyddom iddo ei helpu i werthfawrogi'n fwy nag erioed ogoniant cariad dyn, a fu'n ffyddlon " hyd y diwedd "; ac o'r awyrgylch grasol hwn yr aeth ei ysbryd i'r byd anweledig, fel o wanwyn i haf, o gysegr i'r Cysegr nesaf i mewn, Gorffennaf 5, 1922.

Claddwyd ef yn Nhalybont Gorff. 10.

Byddai croniclo manylion ei gladdedigaeth yn rhy debig i gyfrif nifer y nodau mewn darn o gerddoriaeth bêr. O brin yr oeddym yn ymwybodol ohonynt, ni ei gyfeillion, o leiaf; yr oeddym fel rhai mewn cwmwl, ond ag enfys arno—cwmwl cymysg o alar a llawenydd. Yr oedd yr awyrgylch yn y capel ac yn y cwrdd coffa yn un addoliadol a hyfryd, a rhyw berarogl santaidd yn ymgymysgu ag arogl y blodau ar ei arch. Eto, hyfryd oedd gweld ei gydweinidogion (Annibynnol) a rhai o ddiaconiaid Lerpwl wedi dyfod i'w hebrwng yr holl ffordd i Dalybont, a hen gyfeillion o'i gylch bore yng ngwaelod y sir yn cwrdd â