hwy yno mewn gwerthfawrogiad o'r bywyd a fu'n gyfrwng bendith iddynt fel ei gilydd.
Gosodwyd coronblethau ar ei fedd gan ddwylo annwyl y diwrnod hwnnw, a thalwyd llawer teyrnged deilwng i'w goffadwriaeth, ar y pryd ac yn y cwrdd coffa, a rhai y gellir eu darllen eto mewn newyddiadur a chyfnodolyn. Ond y mae yna lu o dystiolaethau nas cyhoeddwyd, rhai a ddanfonwyd ato ef ar adegau arbennig, neu ynteu at y teulu adeg ei farwolaeth, a rhoddwn ddetholiad ohonynt ar derfyn y Cofiant. Y maent yn sêl ar dystiolaeth y Cofiant i'w deilyngdod yn fwy nag ychwanegiad at nifer y tystiolaethau iddo. O ran hynny ni allwn roddi ond detholiad bychan o eiddo rhai cyfeillion oedd yn sefyll mewn perthynas arbennig ag Adams, neu ynteu â chanddynt hawl arbennig i siarad ar ryw agwedd o'i fywyd.
Rhoddwn y lle blaenaf i ddau hen gyfaill o'r tu hwnt i'r llen, a'u cyfeillgarwch ag ef yn mynd yn ol i gyfnod Aberystwyth, ac felly wedi ei brofi'n hir.
Y Prifathro T. F. ROBERTS (ar dderbyniad ei lyfr yn 1914):
"Yn (y bennod) Buchedd a Chredo yr ydych yn ffyddlon i'r nodyn y dechreuasoch arno yn Aberystwyth. Yr oeddwn yn meddwl am hyn brynhawn Sul. Y mae'r adail yma'n gysegredig am fod brwydrau ysbrydol wedi eu hymladd yma a gynorthwyodd eraill ymlaen. Cofiais am ddarlithiau T. C. Edwards ar I. Corinthiaid a'ch Creed and Character chwithau. Hyderaf y parhewch i yrru adref eich casgliad: Yr oedd Iesu wedi byw pob gwirionedd a lefarwyd ganddo . . . a'r cyfan yn cael eu byw a'u gweithio allan yn ymarferol gan y credinwyr."
TAFOLOG:
Oherwydd tybied bod Adams yn cyfeirio ato ef mewn ysgrif o'i eiddo ar "Feirniadaeth" ysgrifennodd Tafolog