Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lythyr dan gochl ffugenw i'r Geninen, ac ni fedrai ei galon dyner edifarhau digon am hynny, oblegid cyfeiria at y peth am flynyddoedd. Yr oedd hyn mor bell yn ol ag 1899:

"Ni allaf fynegi mor dda oedd gennyf dderbyn eich llythyr diweddaf a gweled y dôn faddeugar oedd yn rhedeg drwyddo. Rhoddodd esmwythâd mawr i'm meddwl, er na allaf byth faddeu i mi fy hun am y saethau gwenwynig a anelais i galon y cyfeillgarwch puraf, ac ar ol cael cymaint o brawf ohono am gynifer o flynyddoedd. . . . Yr wyf wedi teimlo bob amser ei fod yn llawer mwy o anrhydedd i mi gael fy nghyfrif fel un o'ch cyfeillion pennaf nag ydyw i chwi fod felly i mi; ac er yn gwahaniaethu ychydig yn fy marn oddiwrthych ar rai pethau, nid oes neb ymysg ein dysgawdwyr yr wyf yn ei gymryd yn gymaint o athro, ac yn ameu yn fwy gyfyngder fy myd o feddwl pan fyddaf yn methu cydweld ag ef, â chwi."

Ysgrifennwyd a ganlyn adeg dathlu pen ei chwarter canrif yn Grove Street (a Jiwbili'r Eglwys) gan rai sydd â phrofiad blynyddoedd o gydweinidogaethu ag ef yn yr un dref yn sail i'w tystiolaeth. Estyn cyfeillgarwch Mr. Owen ag ef, fel y ddau flaenorol, yn ol i gyfnod Aberystwyth.

Y Parch. JOHN OWEN, Southport:
"Caniatewch i mi ddywedyd mor dda yw gennyf weled fod 'parch yn cael ei dalu lle mae parch yn ddyledus.' Nis gwn a oedd rhywun yn cynrychioli y M.C. yn y cyfarfod yn Grove Street. Gallaf eich sicrhau eich bod wedi ennill parch ein haelodau yn Liverpool, a hynny y dosbarth goreu. Nid ydych wedi arfer gwenhieithio i'r cyfoethogion, ond wedi cyflawni eich gwaith gyd â ffyddlondeb. Perchir eich cymeriad pur, a'ch llafur o blaid Dirwest