ac a oedd yn hen ddyledus iddo. Drwg gennyf iddi ohirio ei roddi gyhyd. Gwn fod y golled bersonol i chwi (y teulu) yn gwneuthur hyn yn beth bach yn eich golwg; ond hyderaf y bydd yn rhoddi rhyw gymaint o gysur i chwi wybod ei fod ef yn cael ei werthfawrogi drwy Gymru o'r diwedd yn fwy nag erioed o'r blaen. Yr oedd yn arloeswr mewn llawer ffordd; ac yr wyf fi yn un o'r llawer a ŵyr yn dda fod eu ffordd wedi ei rhwyddhau yn fawr iddynt drwy iddo ef fyw a gweithio a darostwng anawsterau drostynt yn y blynyddoedd a fu. Yr wyf fi'n bersonol, efallai, dan fwy o ddyled iddo na'r rhan fwyaf, ond y mae holl feddwl Cymru yn wahanol oblegid yr hyn a ysgrifennodd ac a wnaeth."
Y mae gan ei "blant yn y ffydd" hawl eithriadol i roddi eu tystiolaeth; a gwyddom y buasai ef yn ei chyfri mor werthfawr â'r un.
Y Parch. GWILYM EVANS, Aberaeron, a ddywed:
"Er mai yng Ngwernllwyn y dechreuais bregethu, Mr. Adams a ystyriwn fy nhad yn yr Efengyl, a theimlaf fod y byd gryn dipyn yn wacach hebddo.... Cofir ef yn hir yng Nghymru fel pioneer mewn meddwl a moes. Y mae effaith ei lafur yn Hawen, yn safle uchraddol yr ardal wledig, i'w ganfod hyd heddiw, ac erys yno am genedlaethau hir. Efô oedd y diweddaf bron o arwyr fy ieuenctid, a bydd yr atgof cysegredig amdano i lawer yn symbyliad i ymgysegriad llwyrach."
A'r Parch. T. OGWEN GRIFFITH, Rhyl (ynglŷn â'r teitl):
"Teimlaf yn wirioneddol falch fod fy hen weinidog galluog wedi ei anrhydeddu gan Brifysgol Cymru â'r radd uchaf y gallai ei rhoddi iddo. A phwy yng Nghymru (gyd â phob dyledus barch) sydd â mwy o gymwysterau