na chwi i'w gwisgo'n anrhydeddus? . . . I mi y mae Doctor a David Adams yn dermau cyfystyr ers 30 mlynedd, a dyma'r arfaeth fawr wedi trefnu iddi fod felly mewn gwirionedd."
O fysg lleygwyr, caiff tri o'i dri chylch siarad:
Mr. B. O. JONES,[1] Caerdydd (Hawen):
"Un o blant Hawen wyf fi; Mr. Adams a'm bedyddiodd, ac ni fu neb erioed yn ddyfnach yn fy serch. Pan oeddwn yn blentyn, yr argraff oedd gennyf ohono oedd ei fod yn un o urddasolion y wlad, a heddiw, wedi llawer blwyddyn, y mae'r un argraff yn aros ond wedi dyfnhau wrth ei adnabod yn well, ac fe bery y serch a'r anwyldeb tra byddaf byw. Nid rhywbeth wyf fi wedi ei feithrin yn unig yw'r serch yma, ond y mae'n rhedeg yn y teulu ac wedi disgyn fel etifeddiaeth i mi. Yr wyf yn ŵyr i David Jones Poplar, un o stalwarts Hawen, a chyfaill mynwesol i Mr. Adams."
Mrs. WINTON EVANS, Llundain (Hawen a Bethesda):
"I mi yr oedd yn fwy na dyn, yr oedd yn sefydliad i barhau byth, am ein bod wedi ymgynefino â theimlo ei fod ef yn wastad rywle yng nghefndir ein bywyd, yn corffori popeth oedd uchaf a goreu yn yr hyn yr awyddem ei gyrraedd. Nid wyf yn cofio adeg yn fy hanes pan nad oeddwn yn ymwybodol o bersonoliaeth Mr. Adams . . . Wedi i mi dyfu i fyny a gadael tymor plentyndod ar ol, yr wyf o hyd yn ymwybodol o'r fraint o fod wedi perthyn i'w ddiadell, a chael cyfleusterau i gyfeillachu ag un o bersonoliaeth mor fawr ar ochr meddwl a bywyd, fel y mae'n golled bersonol i mi iddo fynd o'r byd."
- ↑ Un o ddiaconiaid Ebenezer, Caerdydd.