Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ei serch i'w ddyfnhau a'i lydanu i lifeiriant ei chariad, ac yn ei gynneddf ddamcaniaethol a'i wroldeb naturiol offerynnau i ymdrechu am ffurfiau diwinyddol mwy digonol i led a hyd a dyfnder ac uchter ei chariad, fel nad anweddus ar ei wefusau, hyd y gallwn weld, fyddai'r geiriau: 'Arglwydd, pum talent a roddaist ataf, wele mi a ynillais bum talent arall atynt.""
Ffarwel, ein cyfaill, ennyd! er na allasom
Blymio dy natur, fesur ei huchter hi,
Wrth ddarllen Aristotl ni ddeallasom
Mo gyfeillgarwch fel drwy'th nabod di!