Ond yr oedd pethau yn ei erbyn; y plant yn cael eu cadw gartref, neu ynteu'n dyfod yn hwyr; y pupil teacher oedd ganddo yn un diog a diwerth; ac efallai, islaw'r cyfan, y gwaith yn anghydnaws â'i ysbryd a'i uchelgais ef. Eto, hyfryd gweld ei fawrfrydigrwydd yn blodeuo yn y logbook, fel rhosyn mewn diffeithwch; y gair cyntaf ymron a ysgrifennodd ynddo yw gair o ganmoliaeth i'w ragflaenydd. Yn wahanol i'w ddilynydd, ni fynnai fedi clod o anghlod arall. Eto, yn adroddiad diweddaf yr Arolygwr ar yr ysgol, caiff ei gondemnio am beidio â rhoddi'r sylw dyladwy i'r pupil teacher, ond ni cheir gair yn ei nodiadau ef ei hun am ddiogi a phylni hwnnw, tra yn nodiadau ei ddilynydd ceir cyfeiriadau cyson atynt sy'n profi na fynnai'r meistr hwnnw ddwyn mwy na'i faich ei hun.
Peth arall yn ddiau oedd fel tân ar groen Adams oedd yr angen am i'r meistr fod yn ofalus i gael ceiniogau'r plant i mewn.
Ar waethaf blinder ysgol a llescedd iechyd, daliodd ymlaen i farddoni gyd â chryn lwyddiant eisteddfodol. Efô a enillodd ar y Bryddest i "Enwogrwydd " yn Eisteddfod Iforaidd Llanelli yn 1867, ac ar Gwymp Jericho" yn Eisteddfod y Bryn, 1868. Deuthai i gyswllt â Llundain, gallem feddwl, drwy ei frawd a'i chwiorydd, oblegid cawn ef yn ennill gwobrwyon barddol yno am Bryddestau ar "Gwymp Abyssinia," "Yr Athro," " Dr. Livingstone," a "Caradog o flaen Caesar," yn 1868 a'r blynyddoedd dilynol.
Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. John Evans, Bryn, Llanelli, am a ganlyn:
Cynhelid Eisteddfod yn Soar, Llwynhendy. Dafydd Morgannwg yn beirniadu. Wedi mynd dros restr go fawr, daeth at y diweddaf, a dywedodd mai gyd â gwyleidddra yr oedd yn dyfod at y cawr hwnnw,