Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"i daflu ei linyn mesur drosto. Wedi ymadroddion "canmoliaethus, gydag enghreifftiau o'r cyfansoddiad, "galwodd enw y buddugwr. Disgwyliodd pawb weled dieithrddyn enwog, ond yn union cododd ar ei draed yn y dorf y dyn teneu, llathraidd Adams, ysgolfeistr y Bryn. Mawr y gymeradwyaeth pan welwyd mai gŵr o'r lle ydoedd."

"Arferai gadw rhyw fath o ysgol gân. Dysgai allan o Ceinion y Gân, casgliad oedd yn boblogaidd iawn yr adeg "honno. Yr oedd yn edmygwr mawr iawn o Fynyddog, a dysgodd ddarnau i'w hadrodd o'i waith, a chaneuon o bob math. Nid oedd yn ganwr ei hunan, ond gall"odd ddodi eraill i ganu'n llwyddiannus iawn. Hefyd yr oedd yn ffyddlon i holl sefydliadau yr eglwys, Sul ac wythnos. Arferai gymryd rhan yn y cwrdd gweddi "a'r gyfeillach grefyddol. Yr oedd ganddo arferiad, pan "weddïai'n gyhoeddus, o sefyll ar ei draed, a chodi un "llaw at ei dalcen gan guddio rhan ganol ei wyneb. "Yna gweddïai yn syml a chonseis. Arferai fod yn 'efrydydd mawr iawn—yn ddiwyd yn ei lyfrau."

Yn niwedd Mai 1869, ymadawodd â'r Bryn ac aeth, mae'n debig, i'r Coleg Normalaidd yn Abertawe i baratoi ar gyfer Matriculation ym Mhrifysgol Llundain. Ni allwn ddywedyd iddo adael y Bryn "er mwyn" hyn, er bod hynny'n debygol ac yn gyson â'i dueddfryd. Bu'n llwyddiannus yn ei arholiad. Dewiswyd ef Dewiswyd ef yn brifathro'r Ysgol Frytanaidd yn Ystradgynlais yn Hydref 1870. Am ei wasanaeth yno am tua dwy flynedd a chwarter dywed y Parch. R. M. Rhys:

Cyfnod diddorol yn hanes addysg yn Ystradgynlais oedd cyfnod gwasanaeth Mr. Adams. Y pryd hwnnw yr oedd dwy ysgol bob dydd yn Heol yr Odyddion gyferbyn â'i gilydd. Ysgol Eglwys oedd un ac Ysgol