Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Frytanaidd oedd y llall. Yr oedd mesur o deimlad drwg cydrhwng pleidwyr yr ysgolion hyn, fel mewn llawer ardal arall. Dyddiau deffroi'r Ymneilltuwyr i gyfle addysg oedd y dyddiau hynny. Ymneilltuwr ydoedd Mr. Adams o reddf ac argyhoeddiad, a bu yntau'n gyfrannog o deimlad Ymneilltuwyr yr ardal dros dymor ei wasanaeth.

Yn y logbook (Hydref 26), darllenwn:

Mae'r ysgol yn cynhyddu a'r rhagolygon yn gwella. Ymddengys bod yr Ymneilltuwyr yn deffro i'w hawliau. Erbyn dechreu Tachwedd yr oedd y pwyllgor wedi penderfynu gosod yr ysgol dan lywodraeth Bwrdd yn ol y ddeddf newydd, yr hyn a wnaed ym Mawrth 1871.

Cawn y geiniog yn peri gofid iddo yma eto:

Pwnc dyrus ynglŷn â'r ysgol, y pryd hwnnw, ydoedd cael arian i ddwyn y draul, ac ymddengys bod y prifathro yn gorfod cymryd rhan amlwg i'w casglu. Er nad oedd tâl yr athrawon yn uchel, cafodd y pwyllgor drafferth lawer tro i gwrdd â'r gofyn, a bu cryn ymdrech er clirio pob dyled cyn trosglwyddo'r ysgol i ofal y Bwrdd. Nid oedd y mesurau a gymerid yn dwyn i mewn ond ychydig ar y tro. Wedi gwneuthur yr ysgol yn Ysgol Fwrdd, bu pwnc yr arian eto'n bryder i'r awdurdodau, a disgwylient i'r athro arfer gofal mawr dros geiniogau'r plant. Aeth y dyddiau hynny heibio er cysur a dedwyddwch plant ac athrawon.

Nid oedd Mr. Adams y pryd hwn yn teimlo llawer o ddiddordeb mewn symudiadau y tuallan i waith uniongyrchol yr ysgol. Er nad oedd yn gryf o iechyd, cawn iddo hefyd ddechreu ysgol nos ar gyfer