oreu iddi gan nad oedd ei oreu ef a'i goreu hi'n cydgordio. Y gwir yw na anwyd mohono i fod yn feistr ar ysgol bob dydd; er y meddai, fel artists a specialists yn gyffredin, amynedd di ben draw ym maes ei ddiddordeb, âi llafur ynglŷn â manylion eraill yn drybestod dan ei ddwylo. Ac felly y bu drwy ei fywyd; gwyddom iddo wrthod mwy nag un post o bwys, a golygyddiaeth mwy nag un cyfnodolyn am y tynasent ef allan o linell ei brif ddiddordeb. A hyd yn oed y tu mewn i gylch ei weinidogaeth, dywed Mr. Crowther ei fod yn fwy cartrefol yn y dosbarth a astudiai Butler's Analogy yn Hawen na chyd â'r plant, pan ymwelai â'u dosbarthau hwy.
Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. O. Lloyd Owen, Pontypridd, am a ganlyn:—
Y cof cyntaf sy gennyf amdano ydyw iddo ddyfod i Abererch i bregethu, ar noswaith yn yr wythnos, ers hanner can mlynedd neu ragor yn ol, pan oedd yn ysgolfeistr—yn Ystradgynlais os wyf yn cofio'n iawn. Beth a'i dug y ffordd honno nis gwn, ond
gwn iddo wneuthur argraff arbennig ar yr ychydig bobl a'i gwrandawai, ac ar fy nhad yn neilltuol, yr hwn '—goddefer imi ddywedyd—oedd yn eithriadol o graff i adnabod, ac i ganfod good points pregethwr. Cofiaf yn dda ei farn ef am y gŵr ifanc diarth a ddaeth heibio ar ei sgawt. Dyna bregethwr gwahanol i bob pregethwr arall; dydw i ddim yn deyd i fod o'n well na phob un arall, ond rydw i'n deyd nad ydi o ddim yr un fath â phob un arall, ac am hynny os cawn ni fyw neu ynte' hefyd mi gawn i glywed o eto.' Gwir a ddywedodd—nid ydoedd, na'r pryd hynny na byth wedi hynny, mewn meddwl na dywedyd na gwrando, yr un fath â neb arall; yr oedd hyn yn nodweddiadol iawn ohono.