Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cawn iddo ennill gwobr o £4/4/0 yn Eisteddfod Brynaman yn 1873 am bryddest ar " Yr Anialwch," dan feirniadaeth Islwyn. Yn ol Gwydderig,1 ymneilltuodd Watcyn Wyn oddiar bwyllgor yr Eisteddfod hon er mwyn cystadlu. Yn ol y feirniadaeth, yr oedd gan un cystadleuydd "awen fawr," heb fod yn " goeth"; yr oedd y buddugwr yn fwy coeth a thlws.