Tra ninnau yr efrydwyr oddimewn
Yn rhyw eilfyddu nwyd yr oriog fôr
Mor llawn o nwyf a hoen ag ef ei hun,
Ac mor ddireidus hefyd ambell dro."
Enillodd ei radd B.A. yn 1877, y cyntaf i'w ennill ym Mhrifysgol Llundain yn uniongyrchol o'r Coleg. Enillodd hefyd y "Cobden Club Prize" mewn Economeg yn 1876, a'r "Shakespeare Society Prize" am draethawd ar Hamlet yn 1878. Dengys hyn nad oedd yn ei gyfyngu ei hun i lwybr cul y B.A. A phan fyddai ar ei wyliau gartref, wedi treulio'r bore mewn astudiaeth yn ei ystafell, arferai dreulio'r prynhawn ar Alltycrib neu le unig arall gyd â Shakespeare, neu Goethe, neu Carlyle—a'i gyfaill Mr. Richard Jones. Yr oedd yr hyn a ddarllenid ac a drinid yn aml yn dal perthynas â'i arholiadau: yr oedd eisoes wedi darganfod bod siarad ag arall ar bwnc—peth yr oedd yn hoff ohono bob amser—yn help i'w ddatrys a'i gymhathu. Ond nid dyna amcan y gwmnïaeth brynhawnol hon: wrth fynd allan i'r mynydd ceisiai fynd allan o lwybr cul ei astudiaeth.
Ni a'i cawn hefyd, yn 1877, yn ennill Cadair Powys (yn Eisteddfod Cemmaes Road) am bryddest ar "Addysg." Dengys y bryddest hon, a gyhoeddwyd gyd â chyfansoddiadau eraill Eisteddfod Powys, nad oedd yn ei ymchwil am addysg wedi esgeuluso y ddawn farddonol oedd ynddo. Rhoddir y dyfyniadau a ganlyn, fodd bynnag, nid oblegid eu gwerth barddonol, ond am y rhoddant inni ei olygiad ar swyddogaeth "Addysg" (ei addysg ei hun hefyd, bid siŵr) a syniadau nodweddiadol ohono ar bethau eraill. Yn y caniad cyntaf cawn ddyn ieuanc yn cwyno:
"Mae Llyfr Natur imi yn rhôl seliedig,
A Theml Addysg rhagof yn glôedig.'