Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lle traws-sylweddir llên yn faeth ysbrydol,
Lle troir y dynol ynof fi yn Ddwyfol.
Ah! dyma'r Addysg a gymhwysa f'ysbryd
I fod yn llawn ddinesydd Tragwyddolfyd."


Os gellir edrych ar y bryddest hon nid yn unig yn gynnyrch dychymig a deall, ond hefyd yn ffrwyth profiad, ac felly yn hunangofiannol, yna yr oedd ef yn ceisio Addysg (1) er mwyn datblygu ei gynheddfau naturiol, ac felly (2) gael allwedd i mewn i drysorfeydd natur a phrif fedd- yliau'r oesoedd, a (3) mwynhau rhyddid oddiwrth gyfyng- iadau rhagfarn a hunandyb.

Yn rhifyn cyntaf cyfnodolyn y Coleg yn 1878 ceir yr ysgrif gyntaf o'i eiddo sydd yn ein meddiant, ar "Gredo a Chymeriad," gyd â syniadau tebig i'r rhai a geir yn ei bryddest (gyhoeddedig) gyntaf. Dyma ei phrif bwyntiau: (1) Medd yr hyn a gred dyn â'i holl galon ddylanwad mawr ar ei fywyd. Eto nid yw ond un o amodau tyfiant -fel gwraidd y planhigyn. (2) Y mae gormod o bwys wedi ei gysylltu â chydsyniad deallol â gwirioneddau (neu a dybir eu bod yn wirioneddau). Edrych dynion yn ormodol am arweiniad a sicrwydd at gyfundrefnau ffaeledig y deall dynol yn lle mynd at ffynhonnell gwirionedd a bywyd. "Ni ddeuwch ataf fi." Y mae wedi bod yn andwyol i Gristionogaeth godi awdurdod uwchlaw rheswm santeiddiedig a chydwybod-traddodiadau'r tadau uwchlaw mewnwelediad dwyfol yr unigolyn. Ond y mae'r adweithiad yn dechreu, diolch i ddylanwad grasol, a chydymdeimlad dynol, goddefgar, oll-gynhwysol y Duw-ddyn. Y mae credoau sydd wedi crofennu a ffurfiau sydd wedi ymgaregu yn cael eu datgyfanu ac yn rhoddi ffordd i fywyd uwch a dwyfolach. (3) Dylesid edrych ar wyddonwyr fel rhai'n caru'r gwirionedd, ac fel cydweithwyr â'r Person Dwyfol a awyddai ddatguddio llawer o bethau i'w ddisgyblion. Ffrwyniad ac nid mynegiad