(repression, not expression) yw gelyn mwyaf marwol rhyddid a chynnydd dyn. Nid yw uniongrededd yn aml ond diogi meddyliol, na'r pulpud ond "castell llwfrddyn." (4) Yn lle edrych ar gredo a bywyd fel achos ac effaith, dylasem yn aml newid y berthynas, a chyfrif y bywyd yn achos, gan mai un o driciau'r natur foesol lygredig yw cyfaddasu ei chredo i'w gweithrediadau ei hun. (5) Yr heresi fawr yw heresi calon. Cyhyd ag y byddom yn deyrngar i gydwybod ac yn ufudd i'r Llais Dwyfol o'n mewn, nid oes dir gwaharddedig i'n deall, a phan yw'n calonnau mewn cytgord â chalon Duw, rhydd hyn inni'r defnydd goreu i'w weithio allan mewn syniadau cywir, ac mae'r sawl a fedd ysbryd anghywir dan anfantais fawr i ddyfod o hyd i'r gwirionedd. Ac ni fuasai Duw wedi gosod ynom gariad at unoliaeth, y ddawn i olrhain effeithiau i'w hachosion, onibâi Ei fod yn golygu inni i'w ddefnyddio.
Dengys y ddau gyfansoddiad hyn inni ei fod erbyn hyn wedi cyrraedd yr esgynlawr moesegol a diwinyddol y bu'n sefyll a siarad arno am lawer blwyddyn wedyn ; a gallwn gasglu ei fod yn pentyrru geiriau megis "caethter tyn reolau taglyd ffurfiau a rwym-efynna'r meddwl" gyd â bwriad neilltuol o ddangos ei atgasrwydd o'u gorthrwm. Nid oedd gwahanol adrannau ei gred eto, efallai, wedi eu cyfundrefnu, gan y gesyd ffydd, rheswm, y galon, mewnwelediad, a chydwybod yn ymyl ei gilydd. Nid oes arwydd, ychwaith, ei fod eto wedi dyfod dan ddylanwad Hegel a Green. Mill a Bain oedd ben y pryd hwnnw ym Mhrifysgol Llundain; ac er y gwyddom iddo gael help y Prifathro mewn Athroniaeth yn ogystal â'r Clasuron, a'i fod yntau wedi gadael Rhydychen (lle'r oedd T. H. Green yn awr yn dyfod i sylw a phoblogrwydd) yn 1866, dengys y lle canolog a rydd Adams i fewnwelediad nad oedd digon o ddelfrydiaeth Hegel wedi treiglo i'w feddwl i wneuthur argraff ddofn arno,