Gweledigaeth proffwyd oedd ganddo eto yn fwy na chyfundrefn yr athronydd a'r diwinydd, a gwelwn hi yn mynd yn dân goleu yma ac acw yn y bryddest a'r ysgrif uchod, fel nad ydym yn rhyfeddu ei fod yn awr wedi ymroddi i'r gwaith o bregethu. Osgôdd y pulpud hyd y gallodd; nid oedd wedi ei eni'n siaradwr naturiol, ac nid oedd ynddo ogwydd at fywyd cyhoeddus: anghenraid a osodwyd arno. Nid ydym yn sicr pa bryd y gwelodd y pulpud yn sefyll ar draws ei lwybr i hawlio'i wasanaeth ; efallai nad oedd wedi plygu ei ewyllys i'w alwad pan oedd yn cychwyn y dosbarth Beiblaidd yn Ystradgynlais; ond dïau iddo fynd i Aberystwyth â'i wyneb ar y weinidogaeth, fel y praw atgof Mr. Lloyd Owen.
Efallai mai yn y cyfeiriad hwn y daeth fwyaf dan ddylanwad y Prifathro, nid yn unig nac yn bennaf yn ei ddosbarth, ond mewn cyfathrach bersonol. "Yr oedd yn fwy yng nghyfrinach y Principal na neb arall o'r efrydwyr," meddai ei gyfaill y Parch. John Owen. Yr oedd gan yr Athro olwg fawr arno hyd y diwedd, a pha un bynnag a oedd yn cydsynio â phopeth a gyhoeddai, arferai alw sylw cyfeillion cydnaws at ei lyfrau. Ac er bod y disgybl cyn hyn wedi profi ei gariad at ryddid a gwirionedd, cafodd hwnnw ei gadarnhau a'i rymuso'n fawr gan gydymdeimlad yr Athro, fel y cydnebydd yn ei farwnad iddo:
Gedrwydden fawr! ffynidwydd îr
A lechai dan dy gysgod gynt
Rhag rhuthr ystorm erlidgar wynt
O'th golli udant dymor hir.
"Cref darian fu d'athrylith fad
I wrol ymchwil barn a ffydd,
A bwyell dorrai'r cyffion sydd
Yn cloff gadwyno meddwl gwlad."