chi! 's dim o'r pen gore 'da chi—ma gwalle arno. Deuai'r addolwyr i'r gwasanaeth, rhai o gyfeiriad Rhydlewis, eraill o gymdogaeth Penrhiwpal, ac eraill o gyfeiriad Nanty. Ymhlith y rhai olaf, dychmygaf weld dau hen frawd yn dyfod heibio cornel gardd Dyffryn Ceri mewn ymddiddan cynnes a chyfeillgar —David Jones, Poplar, a John James, Gilfachgam.
Mi a'u gwelais felly gynifer o weithiau fel y mae'n bur anodd i mi feddwl am un ar wahan i'r llall.
Yr oedd David Jones (Dafi'r Poplar) yn un o ddisgynyddion gŵr adnabyddus yn ei ddydd, sef NathanViel Griffiths, Pantybrain—un a fu'n hynod o ymdrechgar gyd â sefydlu Ysgolion Sul yn yr ardaloedd 'cylchynol cyn sôn am Robert Raikes o Gaerloew yn y rhan hon o Gymru. Ceir ar ei feddfaen (gyd ag englyn anghywir):
'Ar ben canmlwydd yr Ysgol Sul, coffhad
Am un o'i phrif sylfaenwyr yn ein gwlad
Yw'r garreg yma: plant ei blant a'i rhoes,
A phlant eu plant a'i cofiant oes 'rol oes.'[1]
Yr oedd David Jones yn frwdfrydig iawn dros ddirwest a daioni ymhob ffurf, yn neilltuol dros ei hoff gapel ei hun. Daw i'm cof ymddiddan a fu rhyngom tua dechreu gwanwyn 1877. Yr oeddym wedi cynnal cyfarfod brodyr ynglŷn ag adnewyddu'r capel, a digwyddodd Dd. Jones a minnau gyfarfod wrth neshau at y llidiart. Mae digon o angen gwella'r hen gapel,' meddai, ond y mae llawer mwy o angen gwella rhai o'r dodrefn'! Yr oeddis wedi penodi Dd. Griffiths, Cabidwl, yn drysorydd, a minnau'n ysgrifennydd y mudiad. Ryw nos Lun, a minnau
- ↑ Gwnaed y pennill hwn gan un o'r cofianwyr pan oedd yn fachgen, ar gais Mr. S. Davies, Cilfallen—un o'r wyrion.