arfer ein henwad yn sir Aberteifi oedd talu am gapel newydd wrth ei agor). A defnyddiwyd yr hyn oedd dros ben yr angen ym Mryngwenith i wneuthur dau dŷ o'r hen gapel, ac i wneuthur ystafell gyfleus i'r Gobeithlu a'r Ysgol Gân."
Fel gweinidog, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf ymroddgar a chydwybodol. Er ei fod, pan oedd yn Hawen, wedi dechreu llenydda'n llwyddiannus, eto ni bu iddo ar hyd ei holl oes weinidogaethol adael i'w duedd lenyddol ymyrreth â'i waith fel gweinidog. Yr oedd yn weithiwr diymarbed, a'i holl waith o duedd uniongyrchol i hyrwyddo moes a chrefydd. Ac yr oedd ei weithgarwch hefyd o duedd heintus. "Bob tro yr ymwelwn â Mr. Adams," ebe'r diweddar Barch. Dafydd Jones, Drewen, "tybiwn glywed llais yn dywedyd wrthyf,' Dos adref a gweithia A chyffelyb, hefyd, fyddai profiad ysgrifennydd y llinellau hyn. Er ei fod yn gwmnïwr diddan, ac yn wir roesawgar i'r rhai a ymwelai ag ef, eto ni allai oddef y cwmnïwr—lladdamser. Ac yr oedd ganddo ffordd effeithiol i'w amddiffyn ei hun rhag gormes cyfaill difeddwl felly, sef arwain yr ymddiddan at gynnwys rhyw lyfr newydd, neu fe ddichon ddarllen cyfran o'r llyfr; a buan y teimlai'r ymwelydd mai "caled oedd yr ymadrodd," ac ymaith ag ef. Ond er yn ddyn stern, yr oedd yn bur fedrus i ganfod ochr chwareus a digrif pethau. Un tro euthai'r sôn drwy'r ardal ei fod wedi ennill cadair mewn rhyw Eisteddfod, ac un prynhawn cyfarfu ag un o'i bobl—edmygwr mawr ohono—ond tra—rhyddieithol ei feddwl, ac meddai wrtho, "Rhoswch i, be w' i'n glywed am danoch chi y dyddiau hyn? Ennill prize, eto? Cadair, ai e? Wel, da iawn, wirions i." "A beth oedd testun y pishin?" "Y Briodas yn Cana," oedd yr ateb. "Wel, ta wir, ddala i bo chi wedi setlo faint oedd y ddau ffircyn neu dri 'ny."