Cymanfaoedd Ysgolion, cadarnheir y dystiolaeth uchod amdano. Ac y mae llawer i'w cael heddiw a gofia'n dda am ei Ddosbarthau Beiblaidd, a'r rhan a gymerodd i sefydlu Llyfrgell Gyhoeddus ym mhentref Rhydlewis. Yr oedd wrth ei fodd fel cymwynaswr i bersonau unigol, ac fel cynorthwywr i fudiadau cyhoeddus o duedd ddyrchafol.
Mae'n rhaid addef ei fod yn gryn feistr yn ystyr lythrennol y gair; ac nid rhyfedd hynny, gan mor gref ei bersonoliaeth; ond deuai'r meistr ynddo'n fwy i'r golwg yn ei ffordd bendant nag mewn geiriau traws ac awdurdodol. Hawdd gwel'd nad dyn gwan a gymerai ei lywio a'i arwain gan ddylanwadau allanol ydoedd ef, eithr gŵr cadarn ymhob ystyr—o feddwl, cydwybod, ac ewyllys. Barnai drosto'i hun, a byddai'n ffyddlon i'w argyhoeddiadau, heb adael i nac ofn na gwaseiddiwch barlysu dim ar ei nerth. Hwyrach y gallasai, rai prydiau, sefyll dros ei farn mewn ffordd a barai lai o dramgwydd i rai na chytunai ag ef. Eto, nid gŵr a hoffai dramgwyddo ydoedd, canys nodweddid ef â llawer o foneddigeiddrwydd a thegwch, eithr gŵr nodedig o ffyddlon i'w argyhoeddiad a'i farn ei hun ynglŷn â gwahanol faterion. Ac fe'n hargyhoeddid mor llwyr o'i gydwybodolrwydd a chywirdeb ei amcanion fel na allem lai nag edrych i fyny ato hyd yn oed pan na allem yn hollol gydweld ag ef. Yr oedd yn gofyn gŵr cadarn i gymryd y safle a gymerodd ef ynglŷn ag ambell fater, yn neilltuol felly ynglŷn â diwinyddiaeth, ac i allu dal y beirniadu a'r condemnio a fu arno. Ond daliodd ef ymlaen heb chwerwi, ac heb ymostwng i ymdderu â'r gwŷr galluog a fu'n ei ffonodio'n gas yn ein cylchgronnau.
Ond sôn yr oeddwn am Adams fel meistr. Dywedir fod pob dyn, fel rheol, yn tueddu i gael ei gymryd am y pris a ddyry ef arno'i hun. Yr oedd gan Adams bris arno'i hun, a hwnnw'n bris go uchel, a hynny nid am ei fod yn hunanol, nac am gadw ymhell oddiwrth eraill er