cuddio'i fychander, eithr am ei fod yn naturiol urddasol, ac yn ymwybodol o'i nerth a chywirdeb ei amcanion. Ond er yn synied yn uchel o'i swydd fel gweinidog yr Efengyl, eto ni chredai mewn honiadaeth swyddogol, na bod gogoniant ei swydd mewn na diwyg na thôn na dawn na cherddediad. Yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gadach gwyn, yn y cwlwm beth bynnag, felly hefyd yn ei ddull o draddodi a'i gerddediad. Fel rheol, brasgamwr hoenus a fyddai, fel pe byddai brasgamau ei feddwl yn symud ei gorff. Yr oedd iddo rai arferion bychain yr hoffai lynu wrthynt yn hytrach na bod yn efelychwr neb arall; ac nid oedd y rhai hynny ond adlewychion o agweddau ar ei feddwl. Gallesid meddwl fod gŵr galluog fel oedd ef yn rhy fawr i sylwi ar fanion; ond nid un felly ydoedd, eithr sylwai ar bopeth. Pwy na sylwodd ar ei lygad? Yr oedd yn cynniwair i bob man; ac y mae mwy o'r dalent yna gan bregethwyr nag a dyb llawer.
Ond sut bynnag am olwg allanol Adams, yr oedd yn awgrymiadol iawn o'r hyn ydoedd fel dyn,—yn lân ac urddasol, er heb fod yn hollol fel pregethwyr yn gyffredin. Yr oedd ei bopeth yn adlewyrchu annibyniaeth ei feddwl a phurdeb ei gymeriad. A theimlid hyn yn ei holl gyflawniadau a'i gynhyrchion amryfal.
Ond yr oedd ei safon ymhopeth mor uchel fel nad ar unwaith y deuid i'w werthfawrogi. Yn wir, bu'n rhaid iddo yntau, megis y dywedir am ryw lenor Saesneg, "fagu'r chwaeth a allai ei werthfawrogi." Ac wedi unwaith ddyfod i'w ddeall fel dyn, ni ellid llai na chredu ynddo a'i barchu, a dyfod i deimlo ei fod yn creu awyrgylch bracing—llawn o symbyliad i geisio ymgyrraedd at y goreu ymhob cyfeiriad.
"Pa weinidog yn y wlad a lwyddai i ennill ei bobl i gredu cymaint ynddo ag ef?" Evan, ebe un o brif ddynion Bryngwenith wrth ei was, "mae gyda chi gred fawr ym