Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfeirio ato ef, mae perigl i'r ysgrifennydd ddyfod yn amlycach nag y dylai fod.

Wedi bod yma a thraw yn cynnal cyfarfodydd dirwest (heblaw pregethu'n awr ac eilwaith yn ein heglwysi'n hunain ar ddirwest) meddiannwyd ni gan awydd i ehangu maes ein cenhadaeth. Yn gynnar ym Mai, 1882, galwodd Adams i dreulio prynhawn gyd â mi yn fy llety yn Nhrefaesfach, Beulah. A dyna'r adeg y penderfynasom deithio cymaint ag a allem o'r sir (yn ol ein cyfle) ar ran dirwest, heb ddisgwyl tâl o gwbl. A Mehefin y 29, 1882, dechreuasom ar ein cenhadaeth yng Nghastellnewydd, lle'r oedd tua 30 o dafarnau ar y pryd. Y noson honno yr oedd yr Hybarch Owen Thomas gyd â ni fel cadeirydd.

Gorffennaf y 13. Credaf ein bod ein dau yn y cwrdd dirwest a gynhelid yn Llandysul.

Awst yr 17, yr oeddwn gyd ag Adams yng Nghapel y Wig, dan nawdd cangen leol Mudiad y Ruban Glas. Ardystiodd 190. Dechreuem weled fod ein cenhadaeth yn cael ei gwerthfawrogi.

Awst yr 22, cynhelid y Cyfarfod Chwarterol yn y Crugiau, pryd y penderfynasom alw sylw'r Gynhadledd at ein cenhadaeth a gofyn cefnogaeth y gweinidogion a'r lleygwyr a fyddai'n bresennol. Nid gofyn eu caniatâd yr oeddis. A'r gŵr a siaradodd yn fwyaf cefnogol i ni oedd y Parch. E. Aeron Jones, Castellnewydd Emlyn. Dywedodd i ni fod yn cynnal cyfarfod yng Nghastellnewydd, a'n bod yn ymddangos yn ddynion o argyhoeddiad, ac yn trafod y mater yn deg a boneddigaidd. Cawsom gefnogaeth weddol gan y Gynhadledd—rhyw oddefiad parchus, ag eithrio geiriau cefnogol iawn y Parch. Aeron Jones. Adams, wrth gwrs, a ddylasai roddi'n hachos o flaen y Gynhadledd, ond ni wnâi hynny,