"canys", meddai, "nid wyf fi yn eu ffafr o gwbl am nad wyf ddigon iach yn y ffydd, ac yn hen droseddwr ynglŷn â dirwest byth oddiar y Bregeth Ddirwestol a draddodais yng Nghymanfa Llanarth flynyddoedd yn ol."
A phregeth neilltuol am ei difrifwch a'i nerth oedd honno, mae'n debig.
Wele rai cofnodion pellach:
Awst y 24, cwrdd dirwest yn Llandysul.
Medi y 25, cyfarfod ym Mwlchygroes. Llawer yn ardystio.
Medi y 26, ein dau yn Llanarth ar wahoddiad y Temlwyr Da. Cynulleidfa fawr, a 1 yn arwyddo.
Medi y 27, ym Mydroilyn. Capelaid llawn. Cwrdd doniol. Ond llawer yn arwyddo.
Hydref y 24, ein dau yng ngŵyl flynyddol y Temlwyr Da yn Llangeler. Capelaid llawn a chroeso cynnes.
Tachwedd y 6, yn Neuaddlwyd. Ein dal gan law trwm. Capelaid llawn, gwrandawiad astud.
Tachwedd y 7. Nebo. Cynulleidfa fawr. Y Parch. Lloyd Morgan newydd ymsefydlu yno, ac yn selog dros sobrwydd.
Fel yr awgrymwyd, bylchog iawn yw'r cofnodion o'r ymgyrch ddirwestol, ond cariwyd hi ymlaen am rai blynyddoedd, ac ardystiodd llaweroedd mewn amryw leoedd. Mawrth y 19, 1883, arwyddodd 101 yn Beulah. Mai, 1883, arwyddodd 33 yn Pisgah. A llawer ym Mrynmair, Mai y 6, 1885; a 30 yn Nhachwedd yr un flwyddyn. Ymwelwyd hefyd â Nanternis, Ceinewydd, Capel Iwan, Trelech, Llanbedr, Cilcenin, Capel y Drindod, Glynarthen, Hawen, ac amryw o leoedd eraill, ac ymwelwyd â rhai lleoedd droeon. Anfon ein cyhoeddiad y byddem fel rheol, ond cawsom ein gwahodd i amryw fannau. Teithiasom gymaint i gyfeiriad canol y sir nes dyfod yn