Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fygwr y diwrnod hwnnw. Ond y mae rhyw gysur ymhob amgylchiad: methodd atebwr mawr yr Ysgol â bod yn y Gymanfa honno oherwydd afiechyd. Gofid calon iddo oedd clywed sut y bu hi ar yr Ysgol yn y Gymanfa, ac er mwyn profi prun ai Adams ynteu'r Ysgol oedd drechaf, penderfynwyd i'r Ysgol fynd i Hawen ar nos Sul, ac Adams i holi. Rhaid oedd cael Toriad dydd ar Gymru yn anthem, a 'phetasai ym mwriad y Côr gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ni buasai mwy o baratoi. Er cymaint paratoad y Côr, nid oedd i'w gymharu â pharatoad y diwinyddion; yr oeddynt wrthi mewn amser ac allan o amser, yn enwedig y brawd oedd yn sâl ddydd y Gymanfa. Syniai am Idrisyn gyd â pharch ac edmygedd mawr, ond ofnai nad oedd yn ddigon newydd a ffres i gyfarfod ag Adams; rhaid oedd ymgynghori â Barnes, a llawer gwaith y dywedodd: Dyma'i feistr e', Hawen-w!' Aelwyd lon, hapus a dibryder oedd yr eiddo ef, aelwyd y chwedl a'r gân, ond nosweithiau lawer cyn y nos Sul hwn, rhaid oedd i'r wraig a'r plant, y gweision a'r morynion fynd i'w gwelyau yn gynnar er mwyn iddo gael perffaith lonyddwch a thawelwch gyd â'i Barnes. Ni lafuriodd myfyriwr erioed yn galetach gogyfer â'i arholiad nag y gwnaeth y brawd hwn erbyn yr holi. Gwnaeth ryw bedair tudalen ffwlscap o nodiadau, a phob un o'r nodiadau, yn ei dyb ef, yn mynd i orchfygu'r holwr. Daeth y nos Sul-prynhawn braf yn nechreu haf: yr Ysgol ar y llofft yn Hawen, ac eisteddodd yntau uwchben y cloc. Codai, yn awr ac yn y man, i weled a ddeuthai'r Ysgol i gyd. Breintiwyd ef â chorff tal ond â thymer byr iawn, â chalon fawr ond ag amynedd bach. Medrus ydoedd ar y gwaith o dorri'r llechau, er hynny ni fachludodd yr haul er-