ioed ar ei ddigofaint. Dechreuodd yr holi, a dyma'r cwestiwn cyntaf yn dyfod. Edrychodd yntau ar y ffwlscaps ar ei lin: ac, fel y digwydd weithiau, nid oedd dim cyfleus iawn yn y nodiadau yn ateb y cwestiwn. Atebodd brawd a eisteddai yn y sedd uwch-ben iddo. Dyma'r ail, a'r trydydd gwestiwn—a dim yn y nodiadau eto. Pan ddaeth y pedwerydd, gosododd y nodiadau yn ei boced, gwelodd fod ei lafur i gyd yn ofer; collodd ei dymer, trodd at yr Ysgol, a dywedodd, Weles i riod shwd beth, p'idiwch ag ateb yr hen ff, w. Dyw e ddim gida'r pwnc o gwbl—gadewch e'n llonydd, shwd holi weda i. O hynny allan, yn y gwasanaeth hwnnw, nid agorodd ei enau. Cyn mynd allan o'r capel yr oedd wedi maddeu'r cyfan i Adams am ei holi gwael. Y Sul dilynol aed ati i ddewis holwr erbyn y Llungwyn, ac er syndod i bawb, ef oedd y cyntaf i gynnig gwein- 'idog Hawen. Fel pwnc y Llungwyn hwnnw, rhaid oedd iddo gael rhan o Gorinthiaid xv.-pwnc yr Atgyfodiad. Ar hyn o bryd yr oedd newydd gael benthyg gweithiau Dr. Dick gan gyfaill iddo, ac felly ni wnâi dim ond yr Atgyfodiad y tro i fod yn bwnc. Y Llungwyn hwnnw bu'n rhaid ar Adams ymladd un o'i frwydrau mawrion. Credai'r cyfaill hwn, a'r rhan fwyaf o bawb, y Beibl i gyd, a chredent hefyd mewn Atgyfodiad—atgyfodiad y corff yn gystal ag atgyfodiad yr enaid. Gwahaniaethent hwy oddiwrth yr holwr yn fawr, ac ar dir Sgrythur yr oeddynt bron ag ennill y dydd. Dyfynnent adnodau'n rhugl,
galwent y ddau Destament at eu gwasanaeth; iddynt hwy, penderfynai hyn bopeth. A'r frwydr yn ei hanterth, ciliodd Mr. Adams ychydig yn ei ol yn y pulpud, a dywedodd: 'Dw i ddim am i hwn ddod i fyny, beth bynnag.' Ac ar darawiad amrant,