Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedodd y cyfaill â'r corff hardd lluniaidd: 'Se hwnna gen inne, Adams, fyswn inne ddim amdano chwaith.' Ni ddadleuwyd rhagor am yr atgyfodiad yn yr oedfa honno!

'Deheuig iawn ydoedd Adams i ddyfod â damcaniaethau diweddar athroniaeth a diwinyddiaeth i'w gwestiynau, megis Datblygiad, Hegeliaeth, a phethau felly. Sonnir llawer heddiw am the solidarity of the human race, a dyna'r unig beth oedd ganddo 'pan holai Ysgol yn araith Paul ar Areopagus. Ei athrylith fel holwr oedd yn cynhyrfu meddwl a deffro dychymig, a pho fwyaf dadleuadwy fyddai'r mater, llonnaf i gyd oedd yntau. Hawdd oedd gweled mewn ambell Gymanfa fod yna un cwestiwn mawr yn ei boeni, a deuai at hwnnw o bob man. Un tro personoliaeth y diafol oedd ei beth mawr. Gwnaeth alanas mawr yng nghyfarfod y bore â'r ddwy Ysgol, gyd â'r cwestiwn dyrys hwn. Wrth holi Ysgol yn y prynhawn aeth at bersonoliaeth y diafol wedyn, ac ebr un o'r rhai mwyaf byw ei ddychymig a smart ei dafod a adwaenais erioed, "Syr, dyw hwnna ddim yn y maes." Anwybyddodd awgrym ei gyfaill, a meistr ydoedd ef ar y grefft o anwybyddu atebiad neu awgrym, ond gwnâi hynny mewn dull boneddigaidd a charedig. "Wel," ebr y cyfaill, "os i chi am ddadl, syr, i ni'n barod!" gan edrych ar yr Ysgol. Ni bu erioed y fath luchio ar adnodau, a chroesi cleddyfau wrth resymu. Heb fod yn hir iawn deellodd nad oedd argyhoeddi i fod ar yr Ysgol, a bod y gwahaniaeth rhyngddynt yn mynd yn fwy yn hytrach na mynd yn llai, a'r Ysgol, hithau, yn mynd yn gadarnach yn ei chred o adnod i adnod ac o ymresymiad i ymresymiad. Yn y diwedd caeodd Adams ei gôt, a dywedodd, "Person neu beidio, ddaw ef ddim i mewn fan yma."