Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfeiriadau gwahanol gan wahanol feddyliau; aeth rhai i roddi digonolrwydd yr Iawn i orphwys neu i ddibynu ar y gosodiad o hono, ac felly i wadu ei fod, mewn ystyr briodol, yn ddigonolrwydd cyffredinol; aeth ereill i ddadleu dros osodiad cyffredinol arno, gyda golwg ar rai amcanion cysylltiedig â'r llywodraeth ddwyfol, tra yn addef perthynas neillduol rhyngddo a'r etholedigion; tra y cadwai y lleill at yr hen dir, yr oeddent oll arno yn flaenorol,-digonolrwydd cyffredinol a gosodiad neillduol, gan gydnabod yr anhawsder ac addef eu hanallu i'w gysoni; ond yn derbyn y ddau wirionedd, a ymddangosent braidd yn groes i'w gilydd, ar dystiolaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Gellir edrych ar Mr. Christmas Evans yn cynnrychioli y cyntaf, Mr. John Roberts, Llanbrynmair, yr ail, a Mr. Thomas Jones, Dinbych, y trydydd, o'r golygiadau y cyfeiriasom atynt.

Y cyntaf a ddaeth allan trwy y wasg, gan gymmeryd cyfeiriad newydd, oedd Mr. Christmas Evans, yn ei lyfr,-" Neillduolrwydd y Prynedigaeth yn cael ei chwilio allan, gan nodi y'mha bethau y mae yn gynnwysedig. 'Chwanegwyd hefyd, allan o waith Mr. Andrew Fuller, o Kettring, Ymadroddion Detholedig. Aberystwyth: argraffwyd gan James a Williams, 1811." Ond er ei fod fel hyn wedi cael y blaen trwy y wasg, nid ydym yn hollol sicr a oedd wedi cael y blaen yn nghyhoeddiad ei syniadau. Nid ydym yn gwybod pa mor foreu yn ei hanes yr oedd y golygiadau a ddysgir yn y llyfr hwn wedi eu derbyn ganddo. Y mae yn ei Bregeth-Crist yn Fachniydd yn y Cyfammod Newydd dros ei Bobl," y cyfeiriasom ati eisoes, (tu dalen 290,) a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1807, yn cymmeryd y tir (tu dal. 10), "mai iawn mewn ystyr fasnachol, ac nid mewn ystyr foesol, y mae'r efengyl yn ddatguddio"; ond nid ymddengys fod y wedd neillduol a roddir ar y pwnc, yn y llyfr hwn, wedi meddiannu ei feddwl y pryd hyny. Yn wir, nid ydym yn cael y golygiadau yn yr-"Attebiad am y gobaith a osodwyd i'r Cristionogion yn Iawn Haeddiannol Crist, fel unig sylfaen ei dderbyniad neu ei gyfiawnhad ger bron Duw: ac yn cynnwys, Attebiad i wrthddadleuon y Sosiniaid yn erbyn hyny",-& gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1810, wedi ei argraffu gan James a Williams, Aberystwyth. Ond yr oedd syniadau Dr. Williams, Mr. Andrew Fuller, ac ereill, yn Lloegr, y rhai a ddadleuent dros ryw wedd gyffredinol ar Aberth Crist, erbyn hyn yn dechreu dyfod yn adnabyddus i rai yn Nghymru; ac yr oedd Mr. John Roberts,