a gallu ganddo i ddioddef dros bawb, pe gosodasid hyny arno, a olygid ganddo wrth hyn. Dyna fel y mae efe ei hunan yn esbonio ei ddigonolrwydd:—"Dywed rhai, 'nad oes achos gofyn dros bechodau pwy y dyoddefodd, gan ei fod yn ddigon dros yr holl fyd. "Nid digon," medd yntau, "i'w hachub; canys ni achubir pawb: ond rhyw ddigon arall, anaddas i'w briodoli i waed y cyfammod. Yr ydym yn barod," meddai, "i gyfaddef fod gwaed Crist ynddo ei hun o'r fath werth anfeidrol, yn tarddu o ddwy ffynnon: yn gyntaf, mawredd ei Berson, a mawredd y dyoddefaint a ddyoddefodd;—a'i anfeidrol allu i oddef mwy, yn gystal a chreu mwy o fydoedd" (tu dal. 17). Eto:—Yr oedd yr Iesu yn hollddigonol i brynu dynion cwympiedig, ac angylion syrthiedig, o ran ei gymhwysder: ond appwyntiad a gosodiad Duw o hono, oedd yn gosod terfyn i'w helaethrwydd, pa un ai dros ychydig, llawer, neu bawb, y byddai ef; Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef. Nid y peth oedd yn ddigonol o hono ei hun, a'i gwnaeth yn iawn dros neb; ond ei gymhwysiad i hyny oedd ynddo ei hun; eithr y gosodiad dwyfol o hono, gan ewyllys Duw yn ol trefn cyfammod. Yr oedd yn ddigon i fod dros Judas, pe buasai Duw yn ei osod ef. Nid yw ei holl ddigonoldeb ynddo ei hun, ddim yn ei wneuthur yn iawn dros derfynau ewyllys Duw yn y cyfammod, gwaed yr hwn yw efe. Yr oedd yr hen Schoolmen pabaidd yn dwëyd, fod Crist wedi marw dros bawb, o ran digonoldeb yr iawn.' Ni allasai, heb ei osod yn iawn iddynt, meddaf" (tu dal. 18). Y mae yn amlwg, oddiwrth yr ymadroddion hyn, nad oedd efe yn golygu fod digonolrwydd gwirioneddol yn aberth Crist ond yn unig ar gyfer y rhai neillduol y gosodwyd ef drostynt, ac y dioddefodd, yn ol "gofyniad y gyfraith ar bob person," y gospedigaeth ddyledus i'w pechodau, "yn ol eu rhif, eu pwys, a'u mwyhad"; a phan y sonia, weithiau, am yr holl ddigonoldeb sydd yn Nghrist ar gyfer pawb, mai ei feddwl ydyw, nid ei fod fel iawn felly, ond fod y fath gymhwysder yn hanfodol ynddo, fel Person dwyfol, ag y gallasai fod felly, pe buasai wedi ei osod dros bawb, ac yntau yn myned tan "raddau anfeidrol fwy o ddioddefiadau " yn eu lle. Y mae yr ymadroddion canlynol yn profi yr un peth:—Dywedir fod yr iawn yn holl—ddigonol dros bawb," gan rai: ond pa ddigonoldeb ydyw hwnw, ar ran y rhai colledig? Mae yn rhaid mai rhyw ddigonoldeb ag sydd yn ymddibynu ar ryw beth arall heblaw ei werth tufewnol ei hun. Mae digonoldeb mewn gwaith i alw am ei gyflog; teilwng i'r gweithiwr yw ei gyflog,
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/410
Gwedd