Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/415

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod golygiadau Mr. Roberts, y rhai oeddent mewn cymhariaeth, a dywedyd y lleiaf, mor ddiniwed, ac yn cael eu gosod allan mewn dull mor dawel a llariaidd a llednais, wedi cynhyrfu y fath wrthwynebiad. Nid ydym yn gwybod pa fodd i roddi cyfrif am hyny, oddieithr trwy fod y wlad yn gyffredin wedi ei lefeinio, i gryn raddau, â syniadau tra Uchel-Galvinaidd. Mae yn wir ei fod yn defnyddio rhai ymadroddion lled annedwydd, ac nas gallent, ar y pryd, lai na swnio yn ddieithrol yn Nghymru; megis, fod ein "trugareddau tymhorol oll yn dyfod i ni ar hyd llwybr y gwaed (tu dal. 4); fod yr holl ymerodraeth ddwyfol yn cael ei llywodraethu trwy waed a chyfryngdod Iesu " (tu dal. 12); ac y bydd "Iesu Grist yn gweled o ffrwyth llafur ei enaid, nid yn unig yn iechydwriaeth yr etholedigion, ond yn y modd ag y bydd gogoniant llywodraeth Duw yn ymddysgleirio yn nghosp y rhai anufudd i'r efengyl " (tu dal. 11, 12). Pe buasai y geiriad ychydig yn wahanol,—pe na ddywedasai ond mai i Iesu Grist fel Cyfryngwr y mae llywodraeth yr holl greadigaeth yn awr wedi ei hymddiried, a bod y llywodraeth hono yn seiliedig ar ei ddyoddefiadau a'i angeu, gan mai trwy ei aberth yr esgynodd i'r orsedd, a, chan belled a hyny, fod gweinyddiad trugareddau rhagluniaeth i'r byd yn gyffredinol yn dal rhyw berthynas â'i aberth ef,—pe buasai yn geirio fel yna, yr ydym braidd yn tybied na chawsai unrhyw wrthwynebiad; ac, eto, y mae agos yn ddiddadl nad oedd efe ei hunan yn amcanu dysgu dim amgen, trwy yr ymadroddion a arferid ganddo. Mae braidd yn syn genym na buasai yr Awdwr, yn rhywle, wedi cyfeirio at olygiadau Mr. Christmas Evans, ac, o leiaf, wedi gwneyd gwrthdystiad pendant yn eu herbyn. Ond nid yw yn cymmeryd arno gymmaint ag unwaith ei fod yn gwybod dim yn eu cylch. Dichon fod hyny yn cyfodi, nid yn unig oddiar ei anmharodrwydd i ymddangos yn gwrthwynebu yn uniongyrchol un yn ddiammheuol a berchid yn fawr ganddo, ond hefyd oddiar awydd am i'w olygiadau ei hunan ymddangos ger bron y byd yn y modd symlaf a mwyaf manteisiol, er eu cymharu yn deg â dysgeidiaeth Gair Duw.

Yn mhen ychydig amser ar ol cyhoeddiad y llyfryn hwn gan Mr. Roberts, fe ddygwyd allan,—" Ymddyddanion rhwng Dau Gyfaill, Ymofynydd a Henwr, ar Brynedigaeth. Gan T. Jones, Dinbych. Argraffwyd gan Thomas Gee. 1816." Y tri Ymddyddan cyntaf yn unig sydd yma, heb na Rhagymadrodd nac Ôl-ysgrifen na dim arall, yn