Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/416

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfryn bychan, o 58 o du dalenau. Yn mhen tua thair blynedd, fe ail-gyhoeddwyd hwn, wedi ei helaethu yn fawr, ac yn awr yn llyfr 192 o du dalenau, gyda'r wynebddalen,—"Ymddyddanion rhwng Ymofynydd a Henwr, ar Brynedigaeth. Hefyd, Sylwadau gwahanol ar ddau Lyfryn; Un yn tueddu at ryw fath o gyffredinolrwydd yn y Prynedigaeth; a'r llall, yn waeth, i'r ochr arall, yn gosod terfyn i werth aberth Crist! A Chywydd, &c., ar yr un Matterion. Gan T. Jones. Dinbych, argraffwyd gan Thomas Gee. 1819."—Mae y llyfr hwn yn hynod yn hanes Dadleuon Duwinyddol Cymru, nid yn unig, oblegyd, y gallu a arddengys, a'r cyfoeth o Dduwinyddiaeth a geir ynddo, ond, yn arbenig, oblegyd yr ymrysonau a'r teimladau annghysurus a achlysurwyd trwy y cyhoeddiad o hono. Y mae, yn yr Ymddyddan cyntaf, yn mlaenaf oll, yn nodi allan y gwahaniaeth rhwng golygiadau Duwinyddion Calvinaidd ar Brynedigaeth, yr hyn a wneir ganddo ef, fel y canlyn:—Yr oedd o ddechreuad y Diwygiad Protestanaidd ddau olygiad, gwahanol i ryw radd, yn mysg y Diwygwyr; un o honynt yn debyg i hyn: Fod Crist i'w gyfrif yn Brynwr i bawb oll o ddynolryw; am fod rhyw bethau daionus wedi dyfod trwyddo ef i holl hiliogaeth Adda, ond yn enwedig i'r rhai oll a gawsant air ac ordinhadau Duw; ac am fod pawb oll, trwyddo ef, mewn cyflwr neu'stâd gymmodadwy a chadwadwy (nid cymmodedig a chadwedig); hyny yw, heb eu gadael yn anobeithiol eu cyflwr, fel y cythreuliaid, neu yr angylion a bechasant.' Yr oedd y gwŷr hyn hefyd yn chwanegu i'r perwyl hwn; Mai i'r rhai etholedig yn unig y mae, ac y bydd Prynedigaeth yn llawn effeithiol, am mai iddynt hwy y mae Duw wedi rhad-fwriadu, ac mewn amser yn rhad-roddi, gwir ffydd effeithiol. Y lleill o'r Protestaniaid a gyhoeddasant eu barn i'r perwyl hwn: Fod Crist yn Brynwr' (yn ol ystyr penaf y gair) i aelodau ei wir gorph ysprydol, neu ei wir eglwys, yn unig; ei fod wedi rhoddi ei hunan dros ac yn lle y rhai'n, a elwir hefyd ei ddefaid, ei gyfeillion, ei bobl briodol, y rhai a roddwyd iddo mewn cyfammod tragywyddol, gan ei Dad, i'w prynu a’u hachub allan o'r cyflwr gelynol a thruenus y maent ynddo wrth naturiaeth, ac i'w dwyn, trwy wir heddychiad a sancteiddiad, i fywyd tragywyddol: Yn fyr, mai tros, ac yn achos y rhai'n yn bennodol yr aeth Crist yn Fechnïydd ac yn Brynwr, ac mai drostynt hwy y mae efe yn Iawn, yn ol cynghor, cyfammod, ac arfaeth rasol y Personau Dwyfol " (tu dal. 18). Wedi nodi y gwahaniaeth, fel hyn, rhwng y ddau olygiad, y mae, tan gynnwys yn ei feddwl barch neillduol a theilwng i nifeiri o wyr enwog oedd, ac