dwyfol mewn ymgynhyrfiad caruaidd at yr eglwys, ond megis yn yr un radd o wresogrwydd, a thu ag at yr anwir fyd, yr hwn y mae Duw wadi ewyllysio dangos ei ddigofaint' yn ei erbyn; (er nad yw Duw yn ddig wrth ddyn, fel ei greadur, ond fel y mae yn bechadur.) Yn ol y golygiad neu y dyluniad hwn, meddaf, nid yw cariad neillduol Duw ddim yn dyfod i'r golwg, nac i gael ei arddangos, hyd pan y byddo efe yn rhoddi y gras o ffydd i'w rai dewisedig. Nid fel hyn y mae gair Duw yn egluro'r mater; ond gan ddangos, yn gyntaf peth, gariad goruchel ac arbenig y Personau Dwyfol at yr eglwys, yn rhoddiad y Mab i ddyoddef drosti, a'i phrynu, ac yna ei bywhau, ei heddychu, a'i hachrub. Ioan iii. 16, a xv. 13. Rhuf. v. 8, 9. Eph. v. 2. 1 Loan iii. 16. a iv. 9, 10." (tu dal. 20—30.)
Nid ydym ni, yn awr, wedi gallu rhoddi ond crynöad byr ac anmherffaith iawn o'i Sylwadau yn yr Ymddyddan cyntaf. Mae ganddo, yn enwedig, sylwadau helaeth a manwl a dysgedig, er "dangos fod Crist wedi prynu ei bobl, trwy brid werth ac iawn dros eu personau; a hyny yn wahanol oddiwrth ac hefyd yn myned o flaen eu gwarediad, neu eu pryniad oddiwrth euogrwydd, llywodraeth, ac effeithiau pechod"; ac hefyd amryw sylwadau call a chymhedrol, ar y cysylltiad, a dybid gan rai, ac, fel y gwelsom, a ddysgid gan Mr. Roberts, sydd rhwng cyfraniad bendithion tymhorol i bawb, a marwolaeth Crist drostynt. Y mae Mr. Jones yn caniatâu fod "rhyw bethau da yn dyfod i rai pechaduriaid sy'n byw ac yn marw yn annuwiol," trwy "had y wraig "; ac eto yn dadleu, nad ydym i edrych arnynt fel deilliadau uniongyrchol oddiwrth Brynedigaeth, neu fel ffrwyth ac effaith gwaed Crist i bersonau sydd, ac a fyddant byth, yn elynion iddo; ond eu bod yn eu cael er mwyn (sef o gariad at, a gofal am), ac megis dan gysgod yr eglwys, yr hon y mae ei Harglwydd a'i Phrynwr yn dewis ei magu, ei chynnal, a'i meithrin, yn nghanol byd o annuwiolion, ïe, ac mewn amryw olygiadau, trwy eu defnyddioldeb hwynt hefyd" (tu dal. 22—27, 28). Mae yr Ymddyddan hwn, er nad yw mewn cymhariaeth ond byr, yn cynnwys amddiffyniad galluog, ac mewn tôn nodedig o gymhedrol, i'r athrawiaeth o Brynedigaeth Neillduol, yn briodol felly trwy bridwerth,—ar wahan oddiwrth, ac eto yn sicrhau, rhyddhad gweithredol y prynedigion o'u caethiwed.
Mae y tri Ymddyddan olaf ar "Holl-ddigonedd y Prynwr, neu annherfynol werth ei Aberth," yn erbyn y syniad fod y cyfammod a fu