Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/428

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath eiriau a rhifo pechodau Israel, &c., nac yn ein dysgu yn ol y fath drefn orifyddiaeth a phwysedigaeth,' na fydded i ni osod ein tyb a'n trefn ein hunain, yn lle ei air a'i drefn ef" (tu dal. 147). Mewn atebiad i haeriad Mr. Christmas Evans, "Fod cyfiawnder yn galw am gosp fwy, a dangosiad o anfoddlonrwydd mwy, mewn trefn i gael iawn am y pump cant ceiniog, yn fwy na'r deg a deugain;" ac "na byddai achos, fe allai, yn ol cyfiawnder, i fod y dyoddefaint cymmaint i wneyd iawn dros blentyn bach, a thros Saul o Tarsus;" ac, yn ganlynol, "fod Crist wedi dyoddef mwy dros rai o'i bobl na'u gilydd;"—y mae Mr. Jones "yn addef, y cawn ddangosiad yn ngair Duw, fod graddau mwy a llai, mewn pechodau; ac hefyd fod graddau mwy a llai, yn y gosp am bechod yn uffern. Eto cofier," meddai, "mai creaduriaid terfynol o ran eu gwerth, a gwerth eu taliad (pe byddai yn daliad) sydd, yn uffern, yn dyoddef bob un ei gosp am ei feiau ei hunan, neu yn cael eu gofyn, yn llwyr gyfiawn, a hyny yn ol graddau a phwys eu beiau, ond heb dalu dim hyd byth! Ac wrth ystyried creaduriaid euog, gelynol, a gorwael, na allant dalu dim o'u dyledion, na dyoddef byth hyd ddilead ar un o'u pechodau, pa gyffelybrwydd, neu sail i gymhariaeth, a ddichon fod, yn y matter a'r achos goruchel hwn, rhyngddynt hwy a'r Person goruchel, dwyfol, a pherffaith, yr hwn y cafodd y gyfraith ei hanrhydeddu ganddo, a'r Tad ei foddloni ynddo, a hyn oll mewn yspaid byr, ac megis ar unwaith, am byth?" (tu dal. 147, 148). Ac, yna, y mae yn myned rhagddo i ddadleu, gydag eglurder a grym ac effeithiolrwydd mawr, yn erbyn y syniad,—" fod Crist wedi dyoddef mwy dros rai o'i bobl na'u gilydd." Buasai yn dda iawn genym allu cyflwyno ger bron ein darllenwyr, yn gyflawn, y sylwadau ardderchog a wneir ganddo ar hyn; ond rhaid i ni foddloni yn unig ar nodi penau ei ymresymiad:—Yr wyf yn dadleu yn erbyn y casgliad, oherwydd, (1.) Mi dybygwn nad oedd iddo, nac ynddo ef, achos am hynny; o herwydd ei fod yn dyoddef, ac yn talu drostynt oll ar unwaith, ac nid trwy roddi megis ar y bwrdd amryw symiau, mwy a llai, tâl mwy tros un, a thal llai tros un arall (y rhai ni thalasent ddim ychwaith yn y gorchwyl anfeidrol hwn), ond trwy ei offrymu ei hun, a hynny unwaith." (2.) "Nid oedd modd i hyn fod: Oherwydd, nid oes i ni sail i feddwl am ddim llai na'r cyfan o farwolaeth Crist yn ddigonol i brynu un." (3.) "Os dyoddef llawer o ffonnodiau' dros rai, ac 'ychydig ffonnodiau' dros ereill (neu boenau trymach yn achos pechodau rhai, ac ysgafnach yn