Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/431

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"EFE yw yr iawn," "yr awrhon unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei HUN," a geiriau cyffelyb; ac, yn enwedig, pa fodd y gellir cysoni y fath syniad â chyfiawnder cospedigaeth y rhai a geir yn y diwedd yn wrthodwyr o hono?

Yn mhen ychydig fisoedd wedi ymddangosiad y diweddaf o'r llyfrau a fuant yn awr dan ein sylw, fe gyhoeddwyd, mewn Atebiad iddo,"Prynedigaeth o fewn Cylch Etholedigaeth, neu Neillduolrwydd y Prynedigaeth, yn Mhryniad yr Eglwys yn unig; a'r neillduolrwydd hwn yn iawn Crist, yn gynhwysedig, nid mewn un terfynolrwydd, na diffyg yn ei Aberth ef, yn ei fewnol werth a'i urddas; ond yn y terfyniad cyfammodol o hono, gan ewyllys Duw, yn ol bwriad yr offrymydd a'r derbynydd o'r aberth; i fod o fewn Cylch Etholedigaeth yn unig, ac ynddo arddigonedd tystiolaethedig, yn y Cylch hwn i achub pawb a gredant, heb wahaniaeth. Ynghyd a Gwrthbrofiad i gam—ddarluniadau Mr. Thomas Jones, o Ddinbych, o Lyfrań o'r un enw a hwn. Gan Christmas Evans. Caernarfon: argraffwyd gan L. E. Jones, 1819." —Ni a allem dybied fod y llyfr hwn wedi ei ysgrifenu gydâ brys annghyffredin mae ei gynllun yn dra annghelfydd, ac y mae ei gyfansoddiad drwyddo yn hynod o drwsgl ac aflerw. Mae ganddo, yn gyntaf," Ragymadrodd," o ddau tu dalen; yna, "Arweiniad i Mewn," o wyth tu dalen; yna, "Prynedigaeth Neillduol, &c.," mewn tua phump tu dalen; ac yna, y gweddill yn "Sylwadau ar Lyfr Thomas Jones;"—y cwbl yn gwneyd i fynu lyfryn o ddeuddeg a deugain o du dalenau. Yr oedd yr Awdwr, y mae yn amlwg, wedi teimlo i'r byw oddiwrth y fflangelliad a gawsai gan Mr. Jones: ac, fel un wedi haner ymddyrysu, yn methu gwybod yn iawn pa beth i'w wneuthur, y mae yn rhedeg o'r naill beth i'r llall,—yn haeru, ac yn gwadu, ac yn haeru drachefn; ac fel creadur mewn magl yn methu ymryddhau, ac, er pob ymdrech i ymysgwyd, yn myned yn dynach dynach yn ei masgau. Mae yn cydnabod ei fod, er y pryd y cyhoeddasai ei lyfr blaenorol,— y llyfr a wrthwynebasid gan Mr. Jones—wedi cyfnewid yn ei olygiadau ar yr iawn megis "taliad arianaidd," ond oddieithr hyny, nad oedd wedi newid "dim," meddai, "o ran sylwedd yn nghorph y llyfran, o herwydd yr wyf eto o'r un farn." . . . . "Yr wyf yn gweled fod fy llyfr i yn hynod o ddifai; ïe, yn llawer gwell nac yr oeddwn gwedi tybied ei fod, wrth ddarllen llyfr T. Jones" (tu dal. 19, 20). Y mae yn fynych fel hyn, yn y llyfr hwn, yn amddiffyn yn gwbl y llyfr blaenorol,