yn sicr mai "yn nilyniad y dull arianaidd o dalu dyled y bu" y "coll;" ond y mae mor sicr, dybygem ni, mai nid gydâ golwg ar "effeithiolrwydd yr Aberth yn ei gymmwysiad," y dadlenai efe, yn ei lyfr blaenorol, dros "y dull arianaidd;"—pe felly, ni wnelsid unrhyw wrthddadl yn ei erbyn, ac ni buasai raid iddo yntau alw dim o hyny yn ol; ond yr oedd yn dadleu drosto, gyda golwg ar natur y taliad ei hunan,—swm neillduol dros bob un a thros bob pechod i bob un, "yn ol eu rhif, eu pwys, a'u mwyhâd," "yn ol trefn rhifyddiaeth a phwysedigaeth." Yn wir y mae ei duedd i gymmysgu, a'i anallu i wahaniaethu ystyr geiriau, yn ymddangos i ni braidd yn anesboniadwy. Yr oedd Mr. Jones wedi sylwi, gydag annghymmeradwyaeth mawr, ar ddywediad o'i eiddo, yn yr hwn y gwadai "fod yr iawn yn holl—ddigonol dros bawb;" ac yr haerai am y digonoldeb, y dadleua rhai drosto, sydd ynddo "ar ran y rhai colledig " y " rhaid mai rhyw ddigonoldeb ydyw ag sydd yn ymddibynu ar rywbeth arall heblaw ei werth tufewnol ei hun." Er egluro ac amddiffyn hyn, y mae yntau yn sylwi,—" Hyny yw meddaf yn y cymmwysiad a'r effeithiolrwydd o hono, canys pe byddai helaethrwydd effeithiolrwydd yr iawn yn ymddibynu ac yn cael rhedeg i derfynau anfesurol ei dufewnol werth, gallai achub heb derfyn byth, ac na byddai creadur colledig mwyach " (tu dal. 34). Hyny yw, y mae yn amlwg, dybygem ninau, yn ol ei ymresymiad ef, y mae y digonoldeb sydd yn yr iawn, y dadleuai Mr. Jones drosto, er achub y rhai, oblegyd eu gwrthodiad o hono, na byddant yn y diwedd yn gadwedig trwyddo, yn cyfodi nid oddiar "ei werth tufewnol ei hun," er fod hwnw, yr un pryd, yn ddigon i " achub heb derfyn byth, ac na byddai creadur colledig mwyach," tra y " rhaid fod y digonoldeb sydd ynddo ar ran y rhai colledig yn codi oddiar "rywbeth arall,"—" ewyllys Duw, yn nhrefn y cyfamod," ewyllys sydd yn penderfynu ei effeithiolrwydd ac felly ei ddigonoldeb i'r etholedigon yn unig!!
Mae yr awdwr yn terfynu trwy ddwyn yn mlaen amryw resymau, yn erbyn Mr. Jones, er profi fod digonolrwydd yr iawn yn cael ei gyfyngu gan y gosodiad o hono:—(1.) "Mae y pwngc o ddal digonedd at achub anghredinwyr, wedi ei osod yn Aberth Crist gan ewyllys Duw tu hwnt i gylch y cyfamod, yn cynnwys cymmysgiad, a diffyg iawn wahaniaethu, rhwng anfeidrol wiwdeb Aberth Crist ynddo ei hun, a'r gosodiad cyfamodol o hono yn bridwerth dros yr Eglwys yn unig,—dros yr hon y bu efe farw; ac nid yw yn bridwerth helaethach nag y bu