argraffedig gan T. Gee." Mae y "Llythyr" hwn wedi ei ddyddio, "Dinbych, Ionawr 81, 1820," ac ni a dybiem ei fod, oddieithr Nodiad bychan yn "Ngoleuad Gwynedd," am Mehefin 1820, tu dal. 318, y peth diweddaf o'i eiddo a ymddangosodd trwy y Wasg cyn ei farwolaeth. Nid ydyw y "Lythyr" hwn ond byr iawn, dim ond wyth tu dalen. Y mae yr awdwr ynddo, y mae yn amlwg, yn friwedig a siomedig ei deimladau, oblegyd ymlyniad Mr. Christmas Evans wrth ei syniadau, ac, yn enwedig, oblegyd y dull a gymmerasid ganddo i'w hamddiffyn, ar ol yr ymdrafod blaenorol cyfeillgar a fuasai rhyngddynt a'u gilydd, gydâ golwg arnynt. Y mae yn rhoddi Adroddiad manwl o'r ymdrafod hwnw. Y mae yn ymddangos fod Mr. Christmas Evans, tra ar daith yn Llangollen, Hyd. 18, 1819, wedi anfon llythyr tra Christionogaidd at Mr. Jones, yr hwn a roddir yma yn gyflawn, yn hysbysu iddo ei fod wedi deall ei fod yn bwriadu ysgrifenu yn ei erbyn ef, ac yn dymuno arno oedi hyny hyd oni chai ei weled ef, yn Ninbych, yr wythnos ganlynol. Y mae yn datgan hefyd ei fod yn "llwyr ymwrthod" â'r dull o ymresymu oddiwrth bwysau a mesurau, a arferasid ganddo yn ei lyfr cyntaf, fel peth "yn tueddu i roi terfyn i'r hyn oedd yn anherfynol, yn anherfynol ynddo ei hun." Y mae, yn mhellach, yn ei hysbysu, ei fod y dyddiau hyny yn ail olygu y pwnc, ac y cai Mr. Jones weled ei ysgrifen arno; ac yn mynegi iddo y byddai yn dda ganddo gael ei farn ef arni a'i gymhorth, a chyd-ymgynghoriad ar y mater. Mae yn terfynu fel y canlyn:—Dichon ein bod yn bresennol yr un farn a'n gilydd; ac os felly mae'r peth yn bod cyfrifaf hyny yn radd ehelaeth o hyfrydwch. Cewch glywed pan y byddaf yn Dinbych; y pryd yr ydwyf yn addaw llawer o hyfrydwch wrth ymgynghori, a chael eich barn ar yr hyn a ysgrifenais. Mae'n ymddangos fel goleu newydd i mi; ond dichon mai fy niffyg sylw ydyw hyny, a fy ngwendid. Gras mawr i chwi. Anwyl frawd, ydwyf yr eiddoch, Christmas Evans."
Ni a ddyfynwn ychydig o Mr. Jones ei hunan, yn yr Adroddiad a roddir ganddo o'r hyn a ganlynodd:—Yr oedd yn dda iawn genyf dderbyn y Llythyr hwn oddiwrth y gwr: (Ond yr oedd fy Llyfryn wedi ei gyhoeddi erbyn hyn:) Ac, er chwanegiad i'm llawenydd, a'm gobaith da am dano ef, o ran ei ymostyngiad i'r gwirionedd, efe a ddaeth i'm ty, ar ddiwrnod o'r wythnos ganlynol, â chyfaill gyd âg ef, Mr. Richard Foulks: Yn fuan iawn, ar ol eistedd i lawr, efe a ddywedodd fel hyn,