neu yn gwbl i'r perwyl hwn, Ei fod wedi dyfod i ymostwng dan y cerydd a roisun iddo, fel plentyn tan wialen ei dad.—Bu ar ol hyn ymddyddan cwbl dirion a heddychlawn rhyngom: ac, yn ol ei grybwylliad yn ei Lythyr, efe a ddangosodd i mi Gopy, neu Lyfryn oedd ganddo yn ysgrifenedig, oddiar ei olygiad newydd ar brynedigaeth: Efe a ddymunodd arnaf ei ddarllen, ac ysgrifenu iddo ychydig o fy sylwadau arno, erbyn ei ddyfodiad i ymweled â mi eilwaith, yn nechreu yr wythnos ganlynol. Minnau (er fy mod i ryw radd yn salwach nâ chyffredin yn y dyddiau hyny) a ufuddheais i'w ddeisyfiad. Cefais ei lyfryn ysgrifenedig yn tebygu (o ran addysg am y prynedigaeth) i'r hyn a gawn gan y Dr. Bellamy, a rhai ereill, a chan Mr. J. Roberts yn Gymraeg, ac mi a geisiais yn fyr, ddangos rhai o'r rhesymau, neu ddadleuon, oedd yn peri i mi anghydsynio â'i ysgrifen. Anfonais hyn i dŷ R. F. y dydd Sadwrn canlynol: ac y mae genyf Gopy o'r hyn a ysgrifenais yn yr achos hwn. Erbyn y bore ddydd Llun yr oedd i mi amryw newyddion cysurol, am y modd yr oedd C. E. wedi galw yn ol ei dyb gau, wedi pregethu yn rhagorol, ac yn llwyr unol â'r hyn a ysgrifenaswn innau, am werth annherfynol aberth Crist. I chwanegu at hyn, daeth efe, a'i gyfaill R. F. i'm tŷ drachefn y dydd hwnw (Tach. 1, 1819) a bu drachefn ymddyddan llwyr heddychol rhyngom. Yn un o'r ddau ymddyddan, yr wyf yn cofio ei fod wedi gofyn i mi, ai nid oeddwn wedi myned yn rhy bell, i ryw radd, mewn un darn ymadrodd (sentence) yn erbyn Mr. J. R. ac mi a ddeallais mai y geiriau sy genyf yn tu dal. 129 o'm llyfryn (ac yn agos i waelod y ddalen) yr oedd efe yn eu golygu; sef, Y mae y fath eiriau (uper yn enwedig) yn aml yn y Bibl,' &c., &c. hyd yn agos i waelod y ddalen. Gall pob un a chwennycho, weled y lle, a barnu yn yr achos. Er hyn, yn y dydd cyntaf, na'r olaf, ni bu un radd na math o ymrafael rhyngom: Ond, fel yr wyf yn cofio, ac R. F. yn cofio yn well nâ mi, yr oedd y cwbl o'r ail ymddyddan hwn yn tueddu ar ran C. E. i addef a datgan ei ymwrthodiad a'r tyb, neu â'r farn, yr oedd wedi ysgrifenu o'i hochr, yn y Copy a fuasai am rai dyddiau dan fy ngolygiad i.—Yn fyr, yn y ddau ymddiddan hyn, y mae yn gymhwys a chyfiawn i mi ddywedyd, fy mod wedi cael C. E. nid yn unig yn ŵr tra mwynaidd a hynaws (a hyn, tybygwn, pan ydoedd wedi newydd-weled, ac ystyried fy llyfryn, y Cywydd a chwbl o hono) ond ei fod hefyd yn ymddangos yn ŵr tra ymostyngol o herwydd ei fai, ei fai mawr, o gyhoeddi llyfryn, sydd â chryn lawer o
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/439
Gwedd