"Dacw fe yn d'od i'r golwg—dacw 'i gam arafaidd, dwys;
Nid yw'n edrych yma ac acw—ond fel ých yn tynu 'i gwys:
Y mae rhywbeth yn ei osgo sydd yn dangos dyn o fryd;
Fel nad all ei ostyngeiddrwydd lwyddo i'w guddio ar bob pryd.
"Wedi cyrhaedd yr areithfa, y mae 'n eistedd yno i lawr;
Prin, gan wylder, teifl ei lygad unwaith dros y dyrfa fawr:
Serchog yw yr olwg arno—syml, dirodres, difost iawn;
Eto'r llygad dwfn, eryraidd, yn bradychu dyfnder dawn.
"Y mae 'n sefyll acw i fyny—ymffrost iddo sydd yn wyw;
Yn arafaidd dyry bennill, efengylaidd iawn ei ryw:
Tyner, pwyllog, diymhongar, y mae 'n taro tant y gân,
Er fod ambell i wreichionen yn amlygu'r Dwyfol dân.
"A o gam i gam yn araf—casgla nerth i'w aden gref;
Nid oes unrhyw ymgais methiant byth i'w ganfod ynddo ef:
Weithiau teimlad sy'n ymchwyddo, ac yn esgyn bob yn bwyth;
Fel y gwelir deddfau anian weithiau 'n tuchan dan eu llwyth.
"Fel y bydd y gref ystorom yn arafaidd ymgrynhoi,
A'r cre'duriaid, trwy reddf anian, i'r cysgodion fydd yn ffoi;
Felly teimla 'r dyn annuwiol yr ystorom fawr o draw,
Ac ymchwilia, ond yn ofer, am ymguddfa rhag ei braw.
"Y mae anian fel yn methu ag anadlu dan ei phwn;
Fel yn attal ei hanadliad, a chlustfeinio 'r ciliad hwn:
Dysgwyl mae i'r gwewyr ddyfod—teimla rym arwyddocid;
Gŵyr y profir loesion angeu cyn y gellir cael rhyddhâd.
"Wele fellten heibio 'n fflachio—taran fawr ddadblyga'i rhol;
Ah! mae calon anian drwyddi yn dirgrynu yn ei bòl:
Pa le mae yr anystyriol? Ah! mae 'n gwelwi'r fynyd hon;
Cenfydd ddorau'r byd tragwyddol yn ymagor ger ei fron.
"Mellt ymwibiant yn wefrdanol—taran ar ol taran gref
Sy 'n aredig yr awyrgylch, ac yn siglo dae'r a nef:
Yna y cymmylau gwgus a ddechreuant fwrw i lawr;
Ymarllwysant eu cynnwysiad fel afonydd byd yn awr.
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/789
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon