Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT

Y PARCH. ROBERT EVERETT, D. D.

PENNOD I.

Bywyd Boreuol Dr. Everett hyd ei Ddyfodiad o'r Athrofa.

Ganwyd ef Ionawr 2, 1791, mewn lle o'r enw Gronant, yn mhlwyf Llanasa, yn Sir Flint. Y mae rhai lleoedd yn y byd wedi myned yn enwog o herwydd eu cysylltiad â phersonau nodedig. Bydd Bethlehem yn enwog tra pery y byd, fel lle genedigol Dafydd, a Iesu y Messia, mab Dafydd; a bydd Tarsus yn enwog fel lle genedigol Paul. Bydd Cwmhyswn yn enwog fel lle genedigol Williams, o'r Wern, tra byddo swn yn adseinio trwy y cwm hwnw; a bydd y Gronant yn en wog fel lle genedigol Doctor Everett, tra byddo y nant hono yn murmur ar ei gwely gro.

Enw Ysgotaidd yw Everett. Ysgotyn oedd hen daid, a Seisones oedd hen nain y Doctor. Cafodd y gwaed cymysg yna ei gymysgu yn mhellach gyda gwaed Cymreig. Hona athronwyr fod cymysgiad achau yn gwellhau epil; ac y mae hanes y teulu hwn yn ymddangos yn gefnogol iawn i'r cyfryw olygiad. Enwau ei rieni oeddynt Lewis a Jane Everett. Yr oeddynt yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o eglwys