Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Annibynol Newmarket. Bu ei dad yn oruchwyliwr mewn gwaith mwn plwm ger y Gronant, am lawer o flynyddau. Yr oedd ganddo deulu mawr o blant, dim llai nag un-ar-ddeg o honynt. Yr oedd yn ddyn deallus a gwybodus. Heblaw bod yn oruchwyliwr yn y mwnglawdd, yr oedd ei dad hefyd yn bregethwr cynorth wyol gyda'r Annibynwyr. Fel pregethwr, hysbysir ni yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru gan y Doctoriaid Rees a Thomas, ei fod yn barchus a defnyddiol. Gwnaeth ymdrechion canmoladwy i roi ysgol dda i'w blant. Yn y teulu crefyddol parchus yna y dygwyd Robert Everett i fyny. Ychydig o adgofion sydd ar gael am ei ddyddiau boreuol; y mae treigliad pedwar ugain o flynyddau wedi eu hysgubo i lwch anghof. Diameu fod hyny yn golled, oblegid y mae ambell dro plentynaidd yn nodweddiadol o yrfa ddyfodol dyn, ac yn esboniad neillduol ar ddadblygiad ei fywyd. Crybwyllir am un tro felly mewn cysylltiad â Robert ieuanc. Unwaith rhoddodd bachgenyn arall farbles iddo; yn fuan gwelai ei dad ef yn eu taflu ymaith, a gofynodd iddo, pa’m yr oedd yn gwneyd hyny ? Ateb odd yntau, " Pe buaswn yn eu cadw i chwareu, ni buaswn ddim gwell na bechgyn eraill. " Ymddengys fod ysbryd ymddidoli oddiwrth y byd, ac awydd rhag ori ar ffordd gyffredin rhai eraill, wedi ei feddianu yn foreu. Un tawel, dystaw a phur ddichwareu ydoedd pan yn blentyn, Yr oedd ynddo ryw bethau yr amser hwnw fel yn arwyddo ei fod i arwain bywyd gwahanol i'r cyffredin.

Robert oedd y trydydd plentyn i'w rieni. Cyrhaeddodd eraill i sefyllfaoedd parchus a rhyw gymaint o enwogrwydd. Yr henaf oedd Ann Hughes; bu hi