Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwrdd eglwys. Ei bregeth gyhoeddus gyntaf ydoedd oddiwrth y geiriau yn Psalm 130 : 3, 4, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif ? Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner." Ceir ei breg eth ar y testyn hwn yn Nghenhadwr, Ebrill, 1859. Dengys ei destynau cyntaf mor hoff ydoedd o wirion eddau mewnol a bywyd-roddol y trefniant efengylaidd, Diameu iddo daro key-note ei weinidogaeth faith yn berffaith yn ei bregethau cyntaf.

I'w gymhwyso i'r gwaith pwysig oedd mewn golwg ganddo cafodd fyned i'r Ysgol Ramadegol yn Dinbych, ac ar ol bod yno ryw gymaint o amser, cafodd ei dderbyn i'r Athrofa Annibynol yn Ngwrecsam, yn Ionawr, 1811. Nid ydym yn gwybod yn sicr a oedd Dr. Jenkyn Lewis wedi rhoddi i fyny ofal yr athrofa pan aeth ef yno, ond tybiwn nad oedd; beth bynag am hyny, gwyddom mai dan ofal Dr. George Lewis y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i amser yno. Yr oedd hwnw yn aelod gwreiddiol o Trelech, Sir Gaerfyrddin, ac wedi bod flynyddau mewn ysgolion dan ofal offeir iad Trelech, offeiriad Llanddowror, Parch. Owen Davies, Trelech, Parch. J. Griffith, Glandwr, Parch. D. Davies, Castell-Hywel, a bod dair blynedd yn athrofa Caerfyrddin. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, yn ddyn o feddwl grymus, ac yn awdwr enwog. Dywedir am dano fel athraw : " Yr oedd ei gymwysder a'i lwyddiant fel athraw mor uchel yn ngolwg noddwyr yr athrofa, fel yr oeddynt yn barod i wneyd unpeth er mwyn iddo aros mewn cysylltiad â hi. A chymaint oedd ei ddylanwad ar y myfyrwyr, fel yr oeddent yn tybio nad oedd gwr cyffelyb iddo ar wyneb y ddaear." Gwel y Geirlyfr Bywgraffyddol, tu dal. 670. Cafodd