Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dr. Everett y fantais o fod dan addysg y dyn galluog yna am amryw flynyddau.

Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth allan o'r athrofa, ond ymddengys yn debyg mai yn 1815 y cymerodd hyny le. Yr oedd yn ystyriol o'r mawr bwys iddo iawn ddefnyddio ei amser tra o dan addysg, a bu yn egniol iawn i wneyd hyny. Gwnaeth gynydd rhagorol fel efrydydd. Yr oedd amryw bethau yn ffafriol iddo, megys y ffaith iddo fyned i'r ysgol yn ieuanc, ei allu oedd gloewon, ei ddiniweidrwydd, a'i ymroddiad mawr. Cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r Lladin, y Groeg, a'r Hebraeg.

Diameu i ddylanwad dau ddyn mor rhagorol a Jones, Newmarket, a Dr. Lewis, wneuthur argraff ddofn ac árosol ar ei feddwl teimladol, a bod yn gym orth mawr iddo i ffurfio nodwedd feddyliol bur, efeng ylaidd a phenderfynol, fel y daeth allan o'r athrofa yn llawn o yni a gloewder, gwres a nerth, i ymosod ar waith cynauaf yr efengyl.

PENNOD II.

Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych.

Amser o bryder i efrydydd ieuanc yw yr amser pan fyddo tymor ei efrydiaeth yn tynu at y terfyn, ac yntau yn dechreu meddwl am ddyfodol ei fywyd, ac yn ymchwilio am faes i lafurio arno. Os na fydd meusydd yn ymagor o'i flaen, teimla yn wangalon; ond os bydd amryw feusydd yn ei wahodd atynt, teimla yn bryderus gyda golwg ar ddewis y mwyaf priodol o honynt. Pan oedd Everett oddeutu gorphen ei efrydiaeth yn