Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Traetha Dr. Gwesyn Jones am amser gweinidog aeth Mr. Everett yn Nghymru fel hyn: "Yr oedd yn adeg gynhyrfus ar y weinidogaeth yn Ngogledd Cymru pan aeth Everett i Ddinbych. Yr oedd cewri o'i gwmpas y dyddiau hyny. Yr oedd Williams o'r Wern yn nghanol ei nerth yn gymydog agos iddo; John Roberts, Llanbrynmair; Michael Jones, Llanuwchlyn; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hughes, Dinas Mawddwy; Arthur Jones, Bangor, a Morgans, Machynlleth, o hyd galw. Yr oedd amryw o honynt wedi bod dan addysg y naill neu y llall o'r ddau Lewis, dynion mawr a dysgedig iawn, y rhai a adawsant eu hol ar Gymru hyd heddyw. Yr oeddynt oll dan ddylanwad Dr. Edward Williams, gweithiau yr hwn oeddynt y pryd hwnw yn bur newydd, ac yn tynu sylw mawr gan feddylwyr Lloegr, Scotland a Chymru."

Yr oedd cymdeithasu â dynion o'r fath alluoedd, athrylith, ac ysbryd cyhoeddus, a chydlafurio â hwynt yn y cyrddau mawrion, yn foddion grymus i symbylu Ac ei feddwl, a chynhyrfu ei egnion i'r man eithaf. fel prawf o effeithioldeb y cyfryw ddylanwad, gellir dywedyd iddo ddyfod allan i sylw y wlad, ar unwaith, fel un o gedyrn y weinidogaeth, a chymeryd ei safle yn rhes flaenaf enwogion y pwlpud cyn ymadael a Chymru.

Tua dechreuad y ganrif hon yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i Ogledd Cymru, ac yn mrwdfrydedd cyntaf eu tarawiad allan ymosodent yn egniol ar Galfiniaeth yr enwadau Ymneillduol oedd yno o’u blaen; ac ymosodai y rhai hyny yn ol gyda llawer o bybyrwch arnynt hwythau. Gweithiodd y rhyfelgyrch hwn rai dospeirth yn mhellach i dir Uchel-Galfiniaeth nag yr oeddynt o'r blaen. Ond amryw o brif weinidogion