Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y rhwyfwyr mewn dychryn y darfyddai am danynt. Yr oedd yr hen John Roberts a Williams o'r Wern, a Jones, Treffynon, a'r brodyr eraill oeddynt yno, yn ymwasgu at eu gilydd i gyd-weddio am nawdd ac arbediad, os oedd gan y Meistr mawr ryw waith yn ychwaneg iddynt wneyd drosto. Yr oedd Dr, Everett hefyd yn gweddio, ond yr oedd heblaw hyny yn eistedd yn dawel at ei haner mewn dwfr, yn nghanol gwaelod y cwch, lle yr oedd eisiau ychwaneg o ballast, er ei gadw rhag troi ar ei ochr." Dylasai y brodyr ereill yr un modd gofio fod eisiau ballastio y cwch yn gystal a gweddio; ond yr oeddynt wedi dychrynu ac ymwylltio gormod i feddwl am hyny.

Tystiolaeth Mr. Morgans yn Hanes Ymneilltuaeth, am gysylltiad Everett ag eglwys Dinbych sydd fel hyn: "Llafuriodd yma oddeutu wyth mlynedd gyda llwyddiant mawr a chymeradwyaeth gwresog yr eglwys. Enillod Mr. Everett air da a derbyniad parchus yr holl eglwysi a'i hadwaenent yn y Dywysogaeth." Fel y canlyn y dyweda Mr. Williams yn hanes eglwys Dinbych am weinidogaeth Mr. Everett yno: "Nid oes ond un dystiolaeth i'w rhoddi am Mr. Everett fel dyn, Cristion a gweinidog. Yr oedd wedi enill iddo ei hun safle gynes iawn yn nghalonau ei bobl, a safai yn uchel iawn yn marn y cyhoedd. Meddai alluoedd cryfion, a dawn ymadrodd rhwydd; a phe cawsai aros yn y wlad hon, mae yn sicr y buasai yn un o gewri yr areithfa Gymreig. Bendithiodd Duw ei lafur i raddau helaeth iawn, fel yr ychwanegodd y gynulleidfa, ac y cynyddodd rhif yr eglwys yn fawr. Yr oedd iddo air da gan yr holl saint, a cherid ef yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Symudodd oddiyma i'r America yn 1823."