Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III.

Bywyd, Gweinidogaeth a Llafurwaith Dr. Everett yn yr Unol Dalaethau.

Dechreuodd Dr. Everett ar ei lafur gweinidogaethol yn eglwys Gynulleidfaol Utica, Gorph. 21, 1823. Yr oedd ynddo gymwysderau neillduol ar gyfer y maes hwnw, a gweithiodd yn ddiwyd ac egniol arno; arferai bregethu bedair gwaith yr wythnos. Nid oedd yma gynifer o gymanfaoedd a chyfarfodydd mawrion yn mhlith y Cymry y pryd hwnw, ag a oedd yn yr Hen Wlad, i dynu allan ei egnion a symbylu ei feddwl; ond yr oedd yma ryw ychydig. Yr oedd y Gymanfa flynyddol wedi ei chychwyn er ys dros bymtheg mlynedd cyn hyny. Yr oedd ef yn cymeryd rhan ynddi yn 1823, am y tro cyntaf. Yr oedd yn alluog i gymdeithasu fel eu cydradd gyda'r Americaniaid, a daeth yn fuan i deimlo dyddordeb yn eu mudiadau crefyddol; a byddai ei galon yn cyd -guro â hwynt yn gynes.

Yr oedd cyfnod gogoneddus o ddiwygiadau crefyddol a gwelliantau moesol yn ymagor yn America tua'r amser y daeth Dr. Everett drosodd. Yr oedd y Gymdeithas Genhadol, y Gymdeithas Feiblaidd, a chymdeithasau daionus ereill wedi cael eu cychwyn er ys ychydig flynyddau, ac wedi cyffroi a bywiocau llawer ar eneidiau Cristionogion. Yr oedd esboniadaeth a beirniadaeth Feiblaidd wedi derbyn bywyd newydd trwy lafur y dysgedig Moses Stuart. Yr oedd llawer o adfywiadau crefyddol wedi cymeryd lle trwy lafur gweinidogion duwiol ac efengylwyr o fath Dr. Nettle ton, ac eraill. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad drosodd daeth