Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan yn gyhoeddus i wrthwynebu drwg oedd mor flagurog a chadarn. Ond gwnaeth Dr. Everett hyny gyda ffyddlondeb a diysgogrwydd anhyblyg. Yn 1830, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol yn Utica, y gyntaf a sefydlwyd yn mhlith y Cymry. Efe yw tad Dirwest yn mhlith ein cenedl ni, nid yn unig yn America, ond yn Nghymru hefyd, oblegid ei lythyr yn y Dysgedydd yn 1834 fu y cychwyniad cyntaf roed i'r achos yn y Dywysogaeth. Cafodd ei weinidogaeth ei hanrhydeddu â chryn lwyddiant yn y blynyddau 1831-2. Mewn llythyr, dyddiedig Mawrth 5, 1832, adrodda hanes cyfarfod a gadwyd gan yr henaduriaid i weddio, pregethu, a siarad a phechaduriaid edifeiriol; parhaodd bymthegnos, a chafodd tua dau cant eu troi.

Rhoddodd Dr. Everett yr eglwys yn Utica i fyny yn y rhan ddiweddaf o'r flwyddyn 1832, a bu am beth amser yn pregethu i'r ail eglwys Bresbyteraidd yn y ddinas hono. Yn ngwanwyn 1833 cymerodd ofal eglwys Seisonig West Winfield, heb fod yn mhell o gylchoedd Utica, Ond er myned at yr Americaniaid nid ymwrthododd a'i genedl. Yr oedd y Cymry yn edrych arno fel eu tad a'u prif arweinydd, ac yr oedd yntau yn teimlo yn fawr dros eu llesiant hwythan, ac yn parhau i ddyfod i'w cyrddau mawrion. Dydd Nadolig 1833 yr ydym yn ei gael gyda ei gydgenedl yn ninas Utica, yn cynal cylchwyl y Gymdeithas Feiblaidd, ac yn yr hwyr yn cadw cyfarfod Dirwestol. Yn yr olaf traddododd anerchiad nerthol, llawn o ymressymiadau cedyrn, ac apeliadau tyner a difrifol. Cafodd hwnw ei argraffu a'i ledaenu yn mysg y Cymry, a dywedir iddo fod yn fendithiol i lawer.

Yn 1837 talodd ymweliad â gwlad ei enedigaeth.