Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pregethwr pan fu yn ol yn Nghymru, na phan ddaeth oddi yno, ond nad oedd y cynulleidfaoedd yno yn ddigon diwylliedig i iawn brisio ei arddull. Tua'r flwyddyn 1837, nid y pregethwr callaf, trefnusaf, a rhagoraf ei bregethau, oedd dyn dewisol y nifer, fwyaf o gynulleidfaoedd Cymru, ond yr hwn a feddai y geg a'r ysgyfaint oreu at haner canu a soniarus floeddio ei bregeth; ac os arferai guro y Beibl a'r areithfa, trystio, tarthu a chwysu fel gweithiwr tân o flaen y ffwrnes, mwyaf oll fyddai ei gymeradwyaeth. Nis gwyddom faint o gyfnewiad chwaeth sydd wedi cymeryd, lle yno, ond dywedir nad oes yno yn awr ond derbyniad oeraidd i bregethwyr wedi cofleidio yr arddull Americanaidd. O'r tu arall, y mae amryw leygwyr gwybodus wedi bod yn ol yn Nghymru yn ddiweddar, ar ol dyfod oddiyno yn ieuainc, a threulio blynyddoedd lawer yn y wlad hon, nes cael eu Hamericaneiddio; ac y maent wedi cyhoeddi yn ddifloesgni y siomedigaeth gawsant yn mhregethwyr Cymru. Yr oeddynt yn mhell o gyfateb i'w dysgwyliadau. Clywsom amryw yn bersonol yn hysbysu yr un peth, y rhai nid ydynt wedi cyhoeddi eu syniadau trwy y wasg. Achwynant eu bod yn ymddibynu mwy yno ar yr hyn a elwir yn "hwyl" a "dawn," ac ar nerth anianyddol, nag ar nerth a llafur meddwl, a gwir wrteithiad; a dywedant mai nid prif feddylwyr Cymru yw ei phregethwyr mwyaf poblogaidd. Hyn sydd sicr, fod arddull y pregethwyr a chwaeth y gwrandawyr yn wahanol yn y ddwy wlad, a bod hir ymarferiad ag unrhyw ddull yn tueddu i wneyd dynion yn rhagfarnllyd drosto. Gallai ystyriaethau fel yna roddi cyfrif teg am dyb isel