Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blanhigion ieuainc wedi newydd gael eu planu yn yr ardd hon i Dduw, yr adeg yr ymgymerodd a'i gwrteithiad. Trwy ddyfrhau planhigion byw hwy ddeuant yn brenau cyfiawnder." Fel un o ffrwythau daionus y diwygiad, helaethwyd, adgyweiriwyd, ac addurnwyd addoldy Steuben yn y blynyddoedd 1839 ac 1840. Yr oedd Dr. Everett yn gefnogwr gwresog i adfywiadau, a chafodd yr hyfrydwch o weled amryw o honynt yn ei eglwysi. Bu cryn ychwanegiad yn Pen-y-mynydd a Steuben yn 1840, a thrachefn yn 1843. Bu yr ychwanegiad at eglwys Steuben y flwyddyn hono rhwng 80 a 90. Cymerodd ychwanegiad lled fawr at eglwys Pen-y-mynydd le yn 1851, ac yn niwedd 1857 a dechreu 1858 ychwanegwyd 32 at Steuben, a 17 at Pen-y-mynydd; ac yn 1868 ychwanegwyd 16 at Pen-y-mynydd. Derbyniodd lawer o aelodau newyddion o bryd i bryd, heblaw y rhai a dderbyniwyd yn yr adfywiadau a goffhawyd. Yr oedd ei weinidogaeth yn doddedig, gwlithog ac ysbrydol, a byddai effeithiau daionus yn cydfyned a hi yn aml.

Yr oedd yr amcan o gael cylchgrawn misol wedi bod o dan ystyriaeth Cymanfa Oneida er ys amser maith, ond yn y Gymanfa yn mis Medi, 1839, daeth y peth i ddigon o addfelrwydd i benderfynu cychwyn y cyhoeddiad ddechreu y flwyddyn ddyfodol. Anfonwyd cylch-lythyrau allan i ofyn am gefnogaeth a chydweithrediad y cyhoedd, wedi eu harwyddo gan Robert Everett, Cadeirydd, a James Griffiths, Ysgrifenydd. Ar ddiwedd y cylch-lythyr hysbysir fod y Gymanfa wedi cyflwyno golygiaeth y gwaith i R. Everett, J. Griffiths a Morris Roberts. "Cyhoeddedig gan weinidogion yr eglwysi Cynulleidfaol," yw y mynegiad