Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyddau ef. Nid oedd y Cenhadwr yn llai o gyhoeddiad i'r enwad ar ol ei drosglwyddo yn ffurfiol i feddiant Mr. Everett, ond gwellhaodd lawer fel cylchgrawn misol mewn canlyniad i hyny.

Yr oedd Dr. Everett wedi bod yn flaenllaw yn ei wrthwynebiad i gaethiwed lawer o flynyddau cyn sefydliad y Cenhadwr; ond dichon mai ar ol hyny y daethpwyd i'w gydnabod fel prif arweinydd a phrif wron y mudiad yn mhlith y Cymry. Bu y Cenhadwr o'r dechreu yn drwyadl wrthgaethiwol, a diamheu mai sel wresog ac egwyddorol dros achos y caethion wnaeth ei berchenog mor benderfynol i'w ddwyn yn mlaen, pan oedd yn colli arian arno flwyddyn ar ol blwyddyn. Treuliodd arno gynysgaeth o ganoedd o bunau oedd wedi dyfod i ran ei briod, ond nid heb ei chydsyniad a'i chefnogaeth wresog hithau, gan ei bod yn cydymdeimlo o'i chalon â golygiadau ac amcanion dyngarol a duwiolfrydig ei gwr. Yr oedd y ddau wedi cydymgysegru i'r un amcanion goruchel. Rhy ddrwg fod rhai mor egwyddorol ac anhunangar yn cael eu parddno gan dafodau maleisddrwg fel rhai yn pleidio y caeth er mwyn budr-elw.

Bu Dr. Everett am ryw amser yn dwyn allan gyhoeddiad misol o'r enw y Dyngarwr, i bleidio diwygiad a lles cyffredin cymdeithas, yn wladol, moesol, a chrefyddol; a bu hefyd yn cyhoeddi y Detholydd, cyhoeddiad yn cynwys pigion allan o brif gyhoeddiadau Cymru; yr hwn a ddygid allan tua chanol y mis. Ond ni chafodd gefnogaeth ddigonol i barhau i ddwyn yr un o honynt allan yn hir.

Mewn cwrdd tri-misol perthynol i Undeb Cynulleidfaol Oneida yn Peniel, Remsen, Ion, 10, 1845, pender-